Saturday, September 4, 2010

ymwelwyr o gymru!





Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i mi, dim oherwydd penwythnos Labor Day na Gwyl Cherokee ond ces i ymwelwyr o Gymru am y tro cyntaf erioed yn fy nhŷ i.

Eifion Glyn ac Iwan Roberts o raglen y Byd ar Bedwar ddod draw. Daethon nhw i Oklahoma i ddilyn hanes Cymraes sy'n byw ger Oklahoma City ac roedden nhw eisiau cyfarfod siaradwyr Cymraeg eraill yn y dalaith hon (sydd ddim yn niferus) hefyd.

Roeddwn i'n gyffro i gyd yn croesawu'r Cymry. Fe wnes i grasu sgons â mwyar gleision lleol. A doedd yr ystafelloedd erioed wedi edrych mwy taclus. Roedd y ddau'n ofnadwy o glên fel hen ffrindiau. Ces i a'r teulu amser gwych yn sgwrsio gyda nhw.


6 comments:

neil wyn said...

Gwych:) gawn ni dy weld di'n cael dy gyfweld rhywdro?

Dwi'n siwr wnaethon nhw mwynhau'r croeso mawr gaethon nhw hefyd!

Emma Reese said...

Cewch, ond dw i ddim yn siŵr pryd.

Gobeithio bod nhw. Dw i'n dal i fethu credu bod y Cymry (Cymreag hefyd) wedi dod i fy nhŷ i.

Robert Humphries said...

Da iawn,Emma. Dwi'n hapus i weld dy fod wedi cael amser hyfryd gyda'r criw teledu. Derbyniais neges ar Facebook oddiwrth Dave gyda'r Wyl Gymreig Gogledd America,a oedd yn chwilio am siaradwyr y Gymraeg yn Oklahoma. Fe anfonais i fe atat ti. Gobeithio y bydd rhyw gyfle i weld y cyfweliad.

Emma Reese said...

O, ti wnaeth ddweud amdana i wrth Dave felly. Does 'na ddim llawer o siaradwyr Cymraeg yn Oklahoma gwaetha'r modd. Mi wnes i fwynhau eu cwmni'n fawr iawn ar wahân i'r cyfweliad! Roedd o'n wirioneddol anodd.

Linda said...

Ardderchog ! Da clywed dy fod ti wedi mwynhau dy ddiwrnod. 'Rwyt yn llawer mwy dewr na fi. Mi faswn i wedi rhewi wrth weld y camera 'na ;)

Emma Reese said...

Rôn i'n iawn achos bod y camera'n bell. (Mi wna i roi llun arall wedyn.) Hefyd rôn i'n canolbwyntio ar y cwestiyanau caled fel nad oeddwn i'n ymwybodol ohono fo.