Monday, November 29, 2010

toy story 3

Doeddwn i ddim yn bwriadu gwylio'r DVD hwn pan ddechreuodd y plant ei wylio a dweud y gwir. Ond wrth i mi roi cip neu ddau ar y sgrin o bryd i'w gilydd, ces i fy nenu i'r stori ddiddorol a'r graffig cyfrifiadur anhygoel; roedd rhaid i mi ei wylio'r cyfan yn y diwedd.

Byddwn i'n dweud mai hon ydy un o'r ffilmiau gorau a welais i erioed. Mae'r stori'n dda; mae hi'n cynnwys elfennau o ffyddlondeb, dewrder, trugaredd, hunan aberth - rhinweddau gwerthfawr ac eto prin yn y byd cyfoes. Mae'r graffig cyfrifiadur diweddaraf yn benigamp hefyd. Roedden ni i gyd yn chwerthin a chrio. Gadawodd y ffilm rywbeth cynnes yn fy nghalon. Fe ro' i bum seren.

Totoro ydy un o'r teganau!

2 comments:

neil wyn said...

Mi aeth Jill a fi i weld Toy Story 3 yn y sinema cwpl o fisoedd yn ól, a rhaid cyfadde wnaethon ni wirioneddol ei fwynhau:) Dwi'n meddwl roedd ein merch wedi ei weld o efo ffrindiau'n barod, ac er i ni deimlo braidd yn rhyfedd i ddechrau, yn mynd i weld y ffasiwn ffilm heb blant, roedd 'na ddigon o oedolion eraill ar eu pennau eu hunain!

Emma Reese said...

Wrth reswm! Falch fod ti wedi ei mwynhau hefyd.