Mae Marco Togni yn postio am lefydd a bwyd hyfryd Japan bron bob dydd. Tra bod y bwyd yn edrych yn flasus iawn, dydy o ddim yn fy nharo cymaint efo cenfigen nag y post hwn am yr onsen ger Mynydd Fuji aeth o ato efo grŵp o dwristiaid o'r Eidal. Mae hanner dwsin o'r baddonau tu allan a rhai tu mewn yn edrych anhygoel o braf. Mi fyddwn i wrth fy modd yn fy nhrochi yn y dŵr poeth yn yr holl faddonau yno, un ar ôl y llall.
No comments:
Post a Comment