y gyoza gorau?
Yn ôl Marco Togni, y goyza a fwytaodd yn Harajuku ydy'r gorau yn Tokyo. Dim ond 290 yen ($2.5) mae dysgl lawn o gyoza yn costio yn y tŷ bwyta yno. (Fe fwytaodd ddwy ddysgl, un gyoza wedi'i ffrio, y llall wedi'i ferwi.) Rhaid bod y tŷ bwyta'n gwerthu llawer iawn ohonyn nhw er mwyn cadw'r pris mor isel yng nghanol Tokyo. Tybed ydy o'n fwy blasus na rhai yn Utsunomiya? Gyda llaw, mae Marco yn bob amser at y bwrdd mae'n ymddangos!
No comments:
Post a Comment