bathodyn ar y galon
"Gwna ddaioni ond paid â sôn amdano," dwedodd Gino Bartali, beiciwr Eidalaidd o fri. Achubodd gannoedd o Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy gludo papurau adnabod ffug iddyn nhw; cuddiodd y cargo gwerthfawr yn ffrâm a chyrn ei feic, a beiciodd drwy'r Eidal. Cludwr perffaith oedd o fel roedd o'n smalio ei fod o'n hyfforddi dros y ras nesaf; gwenodd Natsïaidd a chodi llaw ato fo pan welon nhw fo. Daeth ei weithredoedd arwrol yn gyhoeddus wedi iddo farw; rhoddodd Israel wobr Righteous Among the Nations iddo yn post-mortem.
No comments:
Post a Comment