Tuesday, January 10, 2017

dewis doeth

Cawson ni gardiau anrheg Amazon yn anrheg Nadolig gan frawd y gŵr. Dw i a'r teulu bob amser wrth ein bodd i siopa drwy Amazon. Dyma ni'n archebu ar unwaith, a chyrhaeddodd flwch mawr yn ddiweddar:

fi: het goch tywyll, te o Israel
y gŵr: cydran haearn ar gyfer ei AR-15
y ferch ifancaf: cês lledr ar gyfer ei Mac Book
y mab ifancaf: cymysgedd bach Magic Bullet

Roedd fy mab eisiau set arall o Lego hefyd, ond dewisodd y gymysgedd yn y diwedd i baratoi smwddi iachus; gall fo ddefnyddio hwnnw ar ôl gadael adref am brifysgol hefyd.

No comments: