Friday, January 6, 2017

eira

Cawson ni eira cyntaf y gaeaf dros nos. Ces i fy synnu'n gweld y blanced wen ar y dreif pan agorais y llenni. Roedd y gŵr yn y car yn y garej yn barod gan ddisgwyl y mab a oedd yn dal i frws ei ddannedd. Ffoniais fo ar yr unwaith i weld a oedd yr ysgol wedi ei chanslo. Oedd. Dim ond modfedd o eira disgynnodd, ond mae'r ysgolion yma'n barod i ganslo'r dosbarthiadau cyn gynted ag y ffyrdd yn cael eu lliwio'n wyn. Mae'r disgyblion yn hapus beth bynnag. Fe wnes i baratoi pecyn cinio i'r mab yn barod. O wel.

No comments: