lwmp du
Dydy gweld gwiwerod llwyd, adar ac ambell i ewig neu ddwy ddim yn anarferol pan fydda i'n cerdded yn y goedwig. Gwelais beth rhyfedd ddyddiau'n ôl - lwmp du braidd yn fawr ar y dail. Roeddwn i'n meddwl bod ganddo ddau driongl sydd yn debyg i glustiau. Ffoniais y gŵr a daeth o i'w weld. Cododd y lwmp du a dechrau cerdded i ffwrdd, yna eistedd unwaith eto. Llo oedd! Galwodd y gŵr yr heddlu. Daeth plismon a dweud ei fod o'n gwybod pwy sydd yn debygol o berchen ar y llo, ac felly dwedasai wrtho fo. (Does dim llawer o ffermwyr o gwmpas yma.) Dw i'n byw mewn lle braf.
No comments:
Post a Comment