Tuesday, January 24, 2017

deplorable

Y gair a ddefnyddiwyd gan Hillary Clinton yn ystod yr ymgyrch ydy hwn. Galwodd hi gefnogwyr Donald Trump yn deplorable (truenus) er mwyn eu sarhau. Roedden nhw'n troi'r gair, fodd bynnag, yn fathodyn i ddangos undod yn erbyn y rhyddfrydwyr. Heddiw ces i fy ngalw'n deploable ar y we am y tro cyntaf gan ddynes nad oedd yn hoffi fy nghefnogaeth i Israel. Diolchais iddi hi am y ganmoliaeth.

No comments: