Thursday, January 26, 2017

y wal

Mae Arlywydd Trump wedi cyflawni cymaint mewn dyddiau wedi cychwyn fel dw i'n cael hi'n anodd dewis pwnc i sgrifennu amdano fo. Rhaid dewis fodd bynnag; felly - y wal! Ydy! Arwyddodd yr Executive Order ar gyfer y wal ar y ffin ddeheuol. Mae arlywydd Mecsico'n gwrthod talu amdano fo, wrth gwrs, ond peidiwch â phoeni; mae gan ein harlywydd ni gynllun yn barod, neu na addawodd byth yn ystod yr ymgyrch. Efallai bydd o'n codi tâl wrth borth yn y wal fel dyfalodd Nigel Farage, neu gynllun arall. Gawn ni weld!

No comments: