Saturday, February 29, 2020
peidiwch â chynhyrfu
Mae'r gyfradd marwolaethau o firws Corona ydy rhwng 0.5 i 2 y cant; mae llawer mwy o bobl yn marw o ffliw drwy'r byd bob blwyddyn. Er enghraifft, mae nifer y marwolaethau o ffliw'r gaeaf hwn (10/1 - 2/15) ydy 16,000 - 41,000 ledled America a 45 yn Oklahoma unig. Mae fel petai nifer o lywodraethau a'r prif gyfryngau yn y byd yn hybu'r panig. Dw i'n cytuno'n llwyr â'r arwyddair - Cadwch eich pwyll, a golchwch eich dwylo.
Friday, February 28, 2020
pob lwc
Cyhoeddodd Gweinidog Gwyddoniaeth a Thechnoleg Israel y gall y brechlyn ar gyfer firws Corona fod yn barod mewn ychydig wythnosau, ac y bydd yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd mewn cyn lleied â 90 diwrnod. Dim syndod i mi a dweud y gwir yn ystyried pa mor glyfar a medrus ydy pobl Israel. Pob lwc i gefnogwyr BDS!
Thursday, February 27, 2020
amser coffi
Wednesday, February 26, 2020
ti isio panad?
Nodweddiadol. Unwaith yn rhagor. Mae rhai pobl ar yr ochr chwith yn ymosod ar gwmni oherwydd bod gwleidydd ceidwadol wedi postio llun ohono fo gyda'u cynnyrch. Mae nifer mawr o gwmnïau wedi ildio i'r bwlio tebyg, ond falch i weld bod gan Yorkshire Tea egwyddorion cadarn i'w wrthod. Dw i'n mynd i brynu blwch o'u te drwy Amazon. (Dydy o ddim ar gael yn lleol.)
Tuesday, February 25, 2020
ger ei fron
Gadawodd ysbryd Randy ei gorff ddyddiau'n ôl. Tad yng-nghyfraith i fy merch hynaf oedd Randy. Roedd o'n dioddef o ddementia a salwch yn ddiweddar. Nes iddo gael ei daro'n wael, roedd o'n rhodio'n ffyddlon i'r Arglwydd Iesu. (Gweinidog oedd o.) Cysur enfawr i'r teulu i wybod ei fod o gyda Fo bellach.
Monday, February 24, 2020
pasbort japan
Mae fy merch ifancaf newydd anfon cais am basbort Japan i'r Gonswliaeth Japan yn Texas. Mae hi eisiau dilyn ei ddwy chwaer, a gweithio yn Tokyo. Roedd yn her fawr (i mi wrth gwrs oherwydd mai yn Japaneg mae popeth rhaid cael ei wneud.) Dw i'n rhy hen i nofio drwy reoliadau a dogfen gymhleth. Dim ond i fy merch fynd i'r gonswliaeth er mwyn ei dderbyn sydd ar ôl. Gyda'r pasbort, bydd hi'n medru gweithio yn Japan yn rhwydd fel dinesydd.
Saturday, February 22, 2020
"super bread"
Dw i'n hoffi crasu super bread sef bara maethlon heb glwten a llefrith. Mae yna ryseitiau amrywiol ar y we, a dw i wedi gwella ac addasu un sydd yn fy ffitio i. Does dim mesuriadau llym a dweud y gwir; bydda i'n cymysgu'r canlynol a'i grasu yn y popty:
blawd ceirch, blawd reis
hadau llin wedi'u malu
hadau chia
siwgr
halen
powdr pobi
wyau
dŵr
blawd ceirch, blawd reis
hadau llin wedi'u malu
hadau chia
siwgr
halen
powdr pobi
wyau
dŵr
Friday, February 21, 2020
camry
Thursday, February 20, 2020
gweddill o'r kimono
Dyma'r gweddill o'r kimono ar gyfer y gwledydd eraill a fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo. Er bod nhw i gyd yn hardd, dw i'n meddwl bod rhai dylunwyr wedi ceisio cynnwys gormod o nodweddion y gwledydd. Un i Israel a fyddai'n ennill y wobr gyntaf pe bai cystadleuaeth kimono, yn fy nhyb i!
Wednesday, February 19, 2020
kimono a'r gemau olympaidd
Mae cynllun unigryw ar y gweill ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Tokyo eleni, sef creu kimono ar gyfer dros 200 o wledydd a fydd yn cystadlu. Cafodd kimono anhygoel o hardd ei ddylunio ar gyfer Israel gan Akira Akiyama, feistr ddylunio kimono. Ymgorfforwyd aderyn, blodau a lliw Israel gan gynnwys y gair tangnefedd yn Hebraeg. Myfyrwraig o Israel mor hardd â'r kimono sydd yn ei wisgo hyfryd yn y fideo hwnnw.
Monday, February 17, 2020
benkei
Mae fy merch newydd orffen ei phaentiad diweddaraf, sef Benkei a chwaraewyd gan Ebizo. Cafodd hi ei hysbrydoli pan welodd hi sioe Kabuki yn Japan yn ddiweddar. Rhaid dweud mai ardderchog ydy hwn (heb fod yn rhagfarnllyd wrth gwrs!) Dw i'n wir obeithio y bydd hi'n medru ffeindio modd i'w ddangos i Ebizo. (Mae'n anodd.) Bydd o wrth ei fodd heb os.
Saturday, February 15, 2020
ffreutur
Friday, February 14, 2020
dydd sant ffolant hapus
Thursday, February 13, 2020
adnod
Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,
bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Diarhebion 3:6
Pa mor aml dw i'n methu cydnabod Duw yn fy mywyd beunyddiol. Mae yna ei addewid y bydd o'n cadw fy llwybrau'n union os bydda i'n ufuddhau iddo. Bydd o'n cyflawni ei addewid bob tro.
bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Diarhebion 3:6
Pa mor aml dw i'n methu cydnabod Duw yn fy mywyd beunyddiol. Mae yna ei addewid y bydd o'n cadw fy llwybrau'n union os bydda i'n ufuddhau iddo. Bydd o'n cyflawni ei addewid bob tro.
Wednesday, February 12, 2020
rhosod cochion
Wedi cael cyfnod poenus gyda'i wraig gyntaf a adawodd yn y diwedd, ail-briododd brawd y gŵr â dynes glên dros ben sawl blwyddyn yn ôl. Falch iawn o weld ei fod o'n ei charu hi'n angerddol. Mae o'n postio'n aml iawn lluniau'r blodau hardd mae o'n prynu iddi drwy'r amser gyda neges hynod o gariadus fel hon:
"Rhosod hardd ar gyfer fy ngwraig hardd, nid dim ond ar Ddydd Sant Ffolant, ond bob dydd. Dw i'n dy garu di â fy holl galon, ddoe, heddiw, ac am byth!"Tuesday, February 11, 2020
amddiffyn bywydau
Monday, February 10, 2020
lleuad eira
Saturday, February 8, 2020
ffydd joseff
Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn. - Hebreaid 11:22
Doeddwn i ddim yn deall o'r blaen pam bod Joseff wedi ei ganmol am "roi gorchymyn ynghylch ei esgyrn" yn hytrach nag am ei gampiai rhagorol yn yr Aifft. Roeddwn i'n meddwl mai peth bach oedd ei orchymyn. Dw i'n deall pam rŵan, diolch i bregeth Pastor Paul. Roedd Joseff yn credu'n siŵr y byddai Duw'n mynd â'i bobl allan o'r Aifft at Wlad yr Addewid, ac roedd o eisiau cael ei gladdu yno, nid yn yr Aifft! Dyna ffydd go iawn.
Doeddwn i ddim yn deall o'r blaen pam bod Joseff wedi ei ganmol am "roi gorchymyn ynghylch ei esgyrn" yn hytrach nag am ei gampiai rhagorol yn yr Aifft. Roeddwn i'n meddwl mai peth bach oedd ei orchymyn. Dw i'n deall pam rŵan, diolch i bregeth Pastor Paul. Roedd Joseff yn credu'n siŵr y byddai Duw'n mynd â'i bobl allan o'r Aifft at Wlad yr Addewid, ac roedd o eisiau cael ei gladdu yno, nid yn yr Aifft! Dyna ffydd go iawn.
Friday, February 7, 2020
Roeddwn i'n chwilio ar y we am gwpan arall i fwynhau fy amser coffi, ond doedd dim wedi taro deuddeg. Yna, des i ar draws crochenwaith Pwylaidd. Dyna fo. Roeddwn i ar fin archebu un, ond wedi gweld y byddai'r gost gludiant ar yr un fath ar gyfer y nwyddau llai na $99, penderfynais archebu dau! Maen nhw newydd gyrraedd mewn blwch mawr ymysg môr o blastig swigod aer. Maen nhw'n hardd dros ben. Falch o fedru cefnogi cwmni mewnforio Americanaidd o gystal â chrefftwyr Pwylaidd hefyd.
Thursday, February 6, 2020
llun newydd
Dw i newydd newid llun fy mhroffil, o Paddington i Shaloum-chan. Masgot Llysgenhadaeth Israel yn Japan ydy Shaloum-chan. Ces i hon a wnaeth fy merch hynaf yn anrheg Nadolig. Gosodais wrth ei thraed y garreg o Shtula dw i'n ei thrysori. (Milwr IDF a sgrifennodd y gair, Shtula yn Hebreig.)
Wednesday, February 5, 2020
hysbyseb
Tuesday, February 4, 2020
ffenestr
Hoffwn i ffenestr sydd yn wynebu'r dwyrain. Does gan fy nhŷ ddim ffenestri ar y wal ddwyreiniol yn anffodus. Dw i'n deffro'n gynnar yn naturiol wrth heneiddio; byddai'n braf medru gweld y wawr o'r ystafell wely.
Monday, February 3, 2020
mwynhau cwmni fy merch
Mae fy merch ifancaf adref am wythnosau cyn iddi gychwyn cam nesaf ei bywyd. Gall hi fynd yn ôl i'w swydd dymhorol gyda'r theatr mis nesaf, ond mae hi'n meddwl gweithio yn Japan hefyd fel ei ddwy chwaer. (Mae ganddi ddigon o waith bob dydd yn gweithio i'w thad a'i chwaer hynaf fel dylunydd graffig.) Beth bynnag bydd hi'n penderfynu ei wneud cyn hir, dw i'n mwynhau cael ei chwmni ar hyn o bryd, yn yfed te neu wylio cyfres Victoria wrth sipian gwin ar ôl swper gyda'n gilydd er enghraifft.
Saturday, February 1, 2020
buddugoliaeth y bobl
Llongyfarchiadau mawr i bobl Brydain. Falch i weld bod nhw'n (neu byddan nhw mewn blwyddyn yn ymarferol) rhydd o'r diwedd rhag crafangau byd-eangwyr ar y chwith.
Subscribe to:
Posts (Atom)