Er ei bod hi o dan lawer o bwysau wrth gychwyn dysgu nifer o ddosbarthiadau Saesneg yr wythnos gyntaf, mae fy merch yn Corea wedi dod yn gyfarwydd â nhw'n eithaf cyflym. Aeth hi ar wibdaith efo'r plant a chael picnic un diwrnod. Ces i fy synnu'n gweld pa mor gyfarwydd ydy popeth - yr olygfa, y plant, y pecynnau cinio.Thursday, June 7, 2012
picnic yn corea
Er ei bod hi o dan lawer o bwysau wrth gychwyn dysgu nifer o ddosbarthiadau Saesneg yr wythnos gyntaf, mae fy merch yn Corea wedi dod yn gyfarwydd â nhw'n eithaf cyflym. Aeth hi ar wibdaith efo'r plant a chael picnic un diwrnod. Ces i fy synnu'n gweld pa mor gyfarwydd ydy popeth - yr olygfa, y plant, y pecynnau cinio.Wednesday, June 6, 2012
pasta llydan
Daeth ffrind fy merch i dreulio noson efo hi (i lenwi'r tŷ bron gwag?!) I swper coginiais i gyw iâr mewn saws tomato ar basta. Roeddwn i eisiau defnyddio pasta llydan ond mae'n anodd ffeindio amrywiaeth o basta yma. Doeddwn i ddim eisiau egg noodles. Yna, gwelais hwn ar waelod y silff. Fettuccine mae'n dweud ond maen nhw'n lletach na'r lleill, a mewnforiwyd o'r Eidal. Cawson ni saig flasus (er fy mod i'n dweud fy hun!)Tuesday, June 5, 2012
canlyniad y storm
Cawson ni storm ofnadwy ddwy noson gynt. Dim ond p'nawn ddoe gwelais i hi - un o'n coed mawr ni wedi cael ei thorri'n ddau a gorwedd yn yr ardd gefn, dim ond llath oddi wrth y llinell drydan! Dw i'n falch iawn nad oedd hi'n cwympo ar y ffens chwaith. Bydd y gŵr yn ei thorri'n goed tân rywdro i ni gael eu llosgi yn y gaeaf nesa.
Monday, June 4, 2012
mae'n ddistaw
Mae'r plant ac eithrio un sy'n chwilio am waith wedi mynd at eu chwaer hŷn yn Norman am wythnos. Mi dwtiais i'r tŷ wedi iddyn nhw adael ddoe. Mae popeth yn dal yn daclus! Roedd yr awyrgylch yn rhyfedd ystod y swper neithiwr efo cyn lleied o bobl. Rŵan mae fy merch yn swyddfa ei thad, felly mae'n hollol ddistaw yn y tŷ. Dw i'n medru clywed tician y cloc.
Sunday, June 3, 2012
oedfa mewn tywyllwch
Roedd y gweinidog yn nesau at ddiwedd ei bregeth. Yn sydyn collon ni'r trydan. Trodd yr unig olau argyfwng ymlaen ond gan nad oes ffenestri ar y wal, roedden ni mewn hanner tywyllwch yn yr eglwys. Agorwyd y drysau i ni gael mwy o olau a chanwyd cwpl o ganeuon addoli i orffen yr oedfa. Cawson ni'n synnu ond roedd braidd yn ddymunol clywed adar tu allan wrth y gweinidog gwblhau'r oedfa.
Saturday, June 2, 2012
ffarwel i att
Cawson ni ddigon. Mae AT&T yn enwog am eu gwasanaeth gwael. Does dim digon o staff, felly mae'n cymryd ofnadwy o hir i siarad â pherson go iawn ar ffôn. Hefyd mae'n ymddangos nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwella eu gwasanaeth chwaith. Dan ni newydd ffeindio bod cwmni teledu cabl lleol yn darparu gwasanaeth rhyngrwyd hefyd. Maen nhw'n ddrytach na AT&T ond yn 20 gwaith yn gyflymach. Felly ffarwel i AT&T am byth!
Friday, June 1, 2012
gwaith yr haf
Mae fy merch yn chwilio am waith yr haf ond mae'n anodd. Mae hi wedi rhoi cais at ddwsin o siopau lleol ond heb lwyddiant; mae yna lu o bobl ifanc sy'n gwneud yr un peth. Enillodd ysgoloriaeth i fynd i'r brifysgol ond dydy hi ddim yn talu am bopeth, felly mae hi angen gwaith. Cafodd hi waith am y tro felly yn swyddfa ei thad yn twtio'r lle a gwneid y gwaith cyfrifiadur nes iddi ffeindio rhywbeth.
Subscribe to:
Posts (Atom)

