Thursday, March 20, 2008

gwers gymraeg

Gwers arall i'm merch. Mi naeth hi ddysgu lliwau ac enwau corff y tro ma. (Dw i wedi sylweddoli mod i ddim wedi dysgu enwau gwrywaidd a benywaidd yn dda.)

Roedd hi'n darllen yn uchel un neu ddwy dudalen o Brawd Newydd gan Mair Wynn Hughes hefyd. Stori fer i blant Cymraeg ydy hon. Felly mae'r ramadeg braidd yn anodd i ddysgwyr rhonc. Ond mi gaeth hi hwyl achos bod hi'n medru ynganu llawer o eiriau er bod hi ddim yn dallt be oedd hi'n ddarllen, diolch i Gymraeg sy'n seinegol bron.

Mae'n bleser mawr i mi gael dysgu Cymraeg i rywun arall a chael rhyw fath o "sgwrs" efo'r teulu!

4 comments:

asuka said...

byddai hi'n wych bod â rhywun yn y teulu i siarad cymraeg â hi. bydd rhaid i finnau gael plentyn i addysgu cymraeg iddo - does dim amser gyda 'mhriod a dim diddordeb gyda'r gath. - ac rwy'n siwr bod plant yn bleser mewn sawl ffordd arall, 'fyd!
cytuno'n llwyr, gyda llaw, ar bwnc cenedl rhannau corff. sa' i byth yn eu cofio nhw, ac maen nhw'n wahanol mewn tafodeithoedd gwahanol, sy ddim yn help!

Emma Reese said...

Siarada Gymraeg â dy gath, asuka o ddifri. Mi gei di ymarfer siarad ac mi geith dy gath fod yn ddwyieithog.

Gwybedyn said...

Rwy'n credu 'fod e'n wych dy fod ti, Emma, yn dysgu geiriau Cymraeg i'th ferch. Mae'n rhaid bod y fechan yn cael hwyl hefyd!

Mae siarad â'r gath yn syniad da iawn. Rwy'n cofio i'm mam ddysgu nifer o eiriau Ffrangeg i'r ast gartref. Roedd Clio fach yn dair-ieithog yn y diwedd (wel, roedd hi'n ymateb i rai geiriau mewn ieithoedd gwahanol).

Rwy'n cael hi'n anodd bellach i siarad Saesneg ag anifeiliaid o achos y perthynas Cymraeg oedd gen i â Clio!

Linda said...

Helo emma,
Falch o ddarllen fod y gwersi Cymraeg yn dod ymlaen yn dda, a bod dy ferch yn eu mwynhau.
Fel ti'n gwybod , dwi'n siarad Cymraeg efo'r ddwy gath bob dydd!
Hwyl i ti....