Saturday, May 24, 2008

dathlu




Mi nes i swper arbennig i ddathlu'r achlysuron mawr i'r ddau o'r plant. Dim cyri y tro ma ond gyoza, bwyd Tseineaidd sy'n debyg i ravioli a chacen wen efo mefis, ciwis a Cool Whip oedd y saig. Roedd y plant iau'n awyddus i helpu paratoi gyoza. Roedd popeth yn flasus a phawb yn hapus.

4 comments:

Corndolly said...

Mae 'na ormod o fwyd ar fy flog ! Ond bwyd blasus iawn ydy o, wel dw i'n gallu dyfalu ei fod o'n flasus. Hoffwn i fynychu un o dy ddathliadau, dw i'n siwr.

Emma Reese said...

Ia, roedd popeth yn dda. Dw i'n falch bod y teulu'n fodlon.

asuka said...

llongyfarchiadau i bawb! on'd yw'r gyoza a'r deisen yn edrych yn ffeind! leiciwn i gael resáit ar gyfer cyri japanaidd gen ti rywbryd. rwy'n deall bod cyri yn dipyn o ffefryn yn japan a byddai'n neis gwneud un blasus er mwyn 'mhriod i.

Emma Reese said...

Dyma'r rysait nes i bostio misoedd yn ôl:
Cynhwysion i bedwar:

1/2 - 1 lb o gig o'ch dewis
2 foronen ganolig
1 taten canolig
1 nionyn bach
1 coes o seleri
rhai bresych (os dach chi eisiau)

- wedi eu dorri'n ddarnnau

1 blwch bach o gymysgedd cyri Japaneaidd (angenrheidiol)
1 darn bach o siocled
1 banana bach wedi ei stwnsio
2 lwy de o saws coch
1 llwy de o 'peanut butter'

dwˆr

reis plaen wedi ei goginio

Dull:

Goginiwch y cig. Berwch(?) y llysiau ar y stôf nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y cig. Coginiwch y cyfan am hanner awr mwy. Ychwanegwch y cymysgedd o gyri a'r sbeisys. Coginiwch nes bod y cymysgedd wedi ei doddi.

Rhowch y cyri ar y reis. A bwytwch!

A dweud y gwir, does dim 'cynhwysion cywir.' Mi fedrwch chi ddefnyddio eich dychmygion.