Thursday, June 5, 2008

mynd am dro

Mi es i'n cerdded gyda'r hwyr i osgoi gwres y dydd. Roedd hi'n ofnadwy o wyntog heddiw. Roedd rhaid i mi afael yn fy het. (Gobeithio na ddoith tornado!) Ar ôl cerdded yn gyflym am hanner awr wrth sibrwd Cymraeg, rôn i'n nesau at y ty.

Roedd 'na ddwy ddynes oedd yn gweithio yn eu gardd. Dw i'n eu gweld nhw'n aml yn ddiweddar. Dim ond dweud helo dan ni fel arfer, ond heno mi ddechreuodd un ohonyn nhw siarad efo fi. Maen nhw'n gofalu am y coed bach maen nhw wedi'u plannio, ac yn gobeithio bydd y coed yn rhoi cysgod i'r ty yn yr haf. Roedd yn dda cael sgwrs bach dymunol.

Dw i wedi blino'n braf. Dw i'n siwr na i gysgu'n dda heno.

2 comments:

Linda said...

Helo Emma...yn falch dy fod ti wedi mwynhau mynd am dro.
Cofion cynnes atat o Comox [ 60F ]

Emma Reese said...

Mae'n 90F yma yn barod!