Monday, June 23, 2008

priodas!







Roedd pawb wedi blino'n lan ond mi aeth popeth yn iawn. Seremoni hyfryd oedd hi. Yna, roedd 'na dderbyniad syml a dawns i'w ddilyn. Ac mae'r cwpl newydd hapus wedi mynd ar eu mis mêl. Gan y teulu tynnwyd y lluniau ma. Rhaid aros am y rhai gan y ffotograffydd. (Edrychwch ar y sash a'r crafatiau!)

5 comments:

Corndolly said...

O ! Emma! Mae'r briodferch yn hyfryd iawn. Mae ei ffrog briodas yn arbennig o brydferth. Mwy o luniau plis !!

Emma Reese said...

Diolch i ti Corndolly. Mi na i roi rhai lluniau gan y ffotograffydd pan ddôn nhw.

asuka said...

mae'r briodferch yn hyfryd - ac mae pawb arall yn edrych mor smart ac mor hapus. diolch am y lluniau, emma! ac fel dywedodd corndolly, rhagor, plîs! (alla' i'm credu nad oes 'na'r un llun o'r deisen briodas!)

Linda said...

Lluniau hyfryd iawn Emma, a phawb yn edrych yn smart iawn !Mae'r crafatiau a'r sashes ddaru ti weithio mor galed arnynt yn edrych yn wych , a'r lliw yn gyferbyniad da ar gyfer lliw golau y gwisgoedd.

Emma Reese said...

Diolch i chi, Asuka a Linda. Asuka, rôn i ar fin rhoi llun y gacen ond rôn i'n meddwl i mi roi gormod o luniau'n barod! Mi na i un i ti rwan.