

Gwledd, a Noson Lawen
Mi gaethon ni bryd o fwyd ardderchog yn y neuadd (ddim yn y ffreutur efo'r cannoedd o fechgyn): salad, cyw iâr, tatws, "green beans", bara a phwdin.
Yna, amser Noson Lawen! Roedd 'na sgitiau, offeryn cerddorol, adroddiad storiau, côr, ayyb. Mi naeth pob dosbarth berfformio sgit.
Sarah naeth sgwennu'r sgript ddoniol i'n dosbarth ni. Dyma'r crynodeb:
Mae tiwtor Cymraeg, Geraint yn dod i America i ddysgu cwrs Cymraeg am y tro cynta erioed. Mae o'n meddwl bod pob Americanwr yn hoffi MacDonald's, rhaglenni reality, pêl fas a John Wayne. Ac mi gaeth ei synnu'n cyfarfod y rhai sy'n siarad Cymareg a bwyta'n iach.... Dw i'n meddwyl bod ni'n gwneud yn dda iawn, ac naethon ni i gyd hwyl!
Mi orffenon ni'r noson wrth canu Hen Wlad efo Côr Madog. Roedd yn noson lawen wir.