Tuesday, July 22, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 2 (14/7)



Ar ôl dosbarth ar y cyd, mi es i i Ddosbarth Chwech. Er bod Mark Stonelake yn diwtor gwych, mi nes i benderfynu symud i Ddosbarth Saith achos bod gwersi Dosbarth Chwech yn ymdangos braidd yn sylfaenol.

Roedd 'na naw dysgwr yno gan gynnwys fi fy hun ac roedd tri ohonyn nhw'n dwad o Canada. Yn hollol Gymraeg roedd y dosbarth, ac doedd dim rhaid eu rhybuddio nhw peidio siarad Saesneg. Roedd pawb yn fwy na awyddus siarad Cymraeg cymaint ag y bo modd trwy'r dydd.

Geraint Wilson-Price oedd ein tiwtor ni. Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion yng Ngwent ydy Geraint. Mae o'n gwybod sut i esbonio pethau gramadegol cymhleth, ac mae o'n ddoniol. Tiwtor ardderchog ydy o (er fod o'n hwntw.)

Y peth cynta wnaethon ni oedd "gwrando a deall" gan ddefnyddio rhaglenni Radio Cymru. Roedd yn andros o anodd dallt beth mae'r bobl yn siarad amdano yn enwedig Bethan Gwanas. 

Yn ystod y diwrnod cynta, ces i fy nharo mod i'n nabod un o'r dysgwyr 'na.

4 comments:

Chris Cope said...

O'r gogledd mae Bethan Gwanas. Does neb yn ei deall. ;)

Emma Reese said...

Mae acen Dolgellau'n swnio'n hollol wahanol i'r rhai eraill yn y gogledd.

asuka said...

oedd llawer ohonyn nhw'n nabod ei gilydd o gyrsiau cymraeg blaenorol?

Emma Reese said...

Oedd. Mae nifer ohonyn nhw'n mynd i'r cwrs bob blwyddyn. Parti aduniad mawr ydy o mewn gair arall!