Sarah Castell Tawod, wrth gwrs! Rôn i'n gwybod bod hi'n dwad i'r cwrs hefyd ond dôn i ddim yn disgwyl gweld hogan fach ifanc ynddi hi. Roedd yn braf cael cyfarfod efo hi wyneb yn wyneb. Roedd hi'n gweithio'n galed fel un o aelodau y bwrdd yn ogystal â dysgwraig yn Nosbarth Saith.
Roedd 'na amser "tiwtor ar gael" ar ôl swper bob dydd. Mi es i i ofyn cwestiwn ynglyn y fannod oedd yn fy nrysu ers blynyddoedd. Hefina Phillips o Canada oedd yno. Mae h'n diwtor ardderchog arall. Mi naeth hi esbonio am hyn yn dda. Dw i'n dallt yn llawer gwell sut mae'r fannod yn gweithio bellach.
Yna, Twmpas dawns! Mi ges i lawer o hwyl dawnsio gwerin am y tro cynta am dros awr. Weithiau naethon ni gamu ar droed y person nesa ond mwynhau'n hun yn fawr roedden ni i gyd. Ymarfer corf gwych oedd hi hefyd. Roedd fy mhengliniau'n brifo tipyn wedyn ond doedd dim ots!
10 comments:
mae'n wych ffeindio tiwtor a all egluro pethau'n dda. dim ond un o fedrau'r tiwtor perffaith yw e, ond un pwysig - rhaid iti fanteisio ar gael siarad â rhywun fel 'na pan gei di'r cyfle!
Cytuno'n llwyr. Roedd yr holl diwtoriaid yn ardderchog eleni ar ôl ffrind sy'n mynd i'r cwrs bob blwyddyn.
Weithiau naethon ni gamu ar droed y person nesa ond mwynhau'n fawr
Aw!
Rwy'n falch nad oeddwn yna!
Mwynhau sathru ar draed cyd-ddawnswyr, wir! :-)
Diolch am yr adroddiadau o'r cwrs, rwyf wedi mwynhau eu darllen.
Ti'n iawn Alwyn. Rôn i'n swnio fel tasen ni'n mwynhau camu ar droed y person nesa! Dw i newydd fy nghywiro fy hun.
Mae'n ddrwg iawn gennyf, Emma, nid trio cywiro dy Gymraeg oeddwn.
Yn dy bost gwreiddiol yr oedd yn amlwg dy fod wedi mwynhau'r ddawns (yn hytrach na mwynhau'r sathru ar draed). Jôc oedd fy sylw - sori!
Dw i'n gwerthfawrogi cywiriadau. Sut dw i'n mynd i wella fy Nghymraeg hebddyn nhw?
Da gweld dy fod ti a Sarah wedi cyfarfod!
Llun da, er gwaetha bod fy llygaid ar gau! :) Dw i'n mwynhau darllen dy argraffion di o'r Cwrs.
Diolch i chi, Linda a Sarah. Ti'n anobeithiol, Sarah! Mi nes i dynnu dy luniau doeon ond nest ti gau dy lygaid bob tro!
Post a Comment