Yr Eisteddfod!
Uchafwynt y cwrs oedd hi. Mi ddaeth Gorsedd y Beirdd i mewn i'r neuadd mewn gwisgoedd gwynion (dyma i chdi Asuka ^^) yn urddasol (y tiwtoriaid mewn dillad gwely a thyweli a dweud y gwir!)
Mi geith yr enillydd lefelau 6 a 7 y Gadair tua droedfedd gafodd ei gwenud yng Nghymru ar gyfer yr achlysur arbennig. Dydy o/hi ddim cael ei chadw ond flwyddyn tan yr Eisteddfod nesa. Mi geith ei enw/henw ei ysgythru ar y cefn. Anrhydedd fawr beth bynnag.
Darllenodd Deian y beirniadaethau ac aeth yr enillwyr lefelau eraill i'r llwyfan i dderbyn eu gwobrau.
Yna, daeth y stafell yn dywyll. Llefarwyd enw enillydd y Gadair. "Hebog!" Mi gaeth golau'r torts hyd i Hebog oedd ar ei thraed, ac fe'i hebrwngwyd i'r llwyfan gan ddau o Orsedd y Beirdd.
Ginny o Colorado naeth ennill y Gadair. Llongyfarchiadau. Mi gewch chi ddarllen ei darn ar ei blog.
1 comment:
Wel am ddiweddglo campus ar gyfer y Cwrs....gwych !
A llongyfarchiadau mawr i Giny o Colorado !
Post a Comment