Monday, August 18, 2008

edamame


Mi ges i hyd i "edamame" wedi'u rhewi yn Wal-Mart yn ddiweddar. Ffa soia ffres ydy "edamame." (eda: cangen, mame: ffa) Dach chi'n eu berwi a'u bwyta (heb y codenni) efo tipyn o halen. Maen nhw'n fyrbryd poblogaidd ac iach yn yr haf yn Japan. Mae' na lawer o bobl yn hoffi eu bwyta wrth yfed cwrw.

Roedd fy mam yn arfer prynu "edamame" ar goesynnau. A gwaith fy mrawd a fi oedd casglu'r ffa oddi wrthyn nhw. Dydy'r rhai yn Wal-Mart ddim cystal â'r lleill ond yn ddigon blasus.

2 comments:

Corndolly said...

Mwy o fwyd gwelaf i !! Maen edrych yn wahanol. Dw i ddim wedi eu bwyta nhw.

Emma Reese said...

Maen nhw'n dda iawn ac iach.