Monday, August 11, 2008

yn ôl i'r ysgol


Mae gwyliau'r haf drosodd. Amser i'r plant mynd yn ôl i'r ysgol. Mi ddechreuodd y ddau fenga heddiw ac mi neith fy merch 14 oed ddechrau yfory. 

Roedd hi'n mynd i'r ysgol fach breifat ond rwan i'r ysgol uwchradd gyhoeddus mae hi'n mynd. Mi es i yno efo hi heno. Mae hi'n enfawr o'i chymharu â'i hysgol ddiwetha. Dw i'n teimlo drosti hi. Mi faswn i'n nerfus hefyd. Yn ffodus mae hi'n nabod rhai o'r disgyblion na. 

3 comments:

asuka said...

pob lwc iddi hi - byddai unrhyw un yn nerfus. gobeithio y caiff hi hyd i bethau yn y lle newydd i'w mwynhau yn fuan.

asuka said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Diolch i ti Asuka. Mi wna i roi dy neges iddi bore fory.