Thursday, September 11, 2008

penblwydd blog

Wnes i ddim yn fwriadol o gwbl ond  ar Fedi 11eg flwyddyn yn ôl dechreues i sgwennu fy mlog.

Dw i wedi bod yn mwynhau'r profiad yn llwyr. Dw i'n cael ymarfer sgwennu Cymareg tra mod i'n cael boddhad gweld fy narnau wedi 'u hargraffu. Hyfryd cael cysylltu â fy ffrindiau a gwneud rhai newydd.

Diolch yn fawr i chi i gyd sy'n darllen fy mlog. Ac dw i'n gwerthfawrogi pob sylw. (Dw i erioed wedi cael sylwadau cas ar wahân i rai wnaeth ceisio rhoi firws i mi.)

6 comments:

Chris Cope said...

Pen-blwydd hapus i'th blog.

Emma Reese said...

Diolch i ti, Chris. : )

asuka said...

penblwydd heb barti? gobeithio i dy flog di gael teisen fawr a lwyth o anrhegion!
da iawn ti am gadw blog mor hir!

Corndolly said...

Wyt ti'n mynd i goginio cacen ar gyfer dy flog? Ga i ddarn plîs?

Emma Reese said...

Diolch i chi, Asuka, Corndolly. Naci, dim parti na chacen, ond dw i'n hapus mod i wedi sgwennu fy mlog am flwyddyn. Ac dw i'n dal ati.

Linda said...

Penblwydd Hapus i Blog emma reese !
Llongyfarchiadau i ti .