Sunday, February 1, 2009

mis chwefror

Penderfynais i newid llun fy mlog bob mis. Ceisia i osod rhai tymhorol sy'n dangos y dre fach yma yn Oklahoma. 

Tynnais i'r llun ma yn Wal-Mart wrth aros fy nhro i dalu. Sylwais i'r olwg ddiddorol ma efo llawer o falwns 'St. Valentine's Day'. Baneri America ac Oklahoma sydd yn y pellter.

2 comments:

Linda said...

Syniad da iawn emmareese. Ac mae'n edrych yn lliwgar hefyd :)

Emma Reese said...

Diolch! Bydd yn hwyl meddwl pa lun i'w roi i'r blog ma bob mis.