Friday, April 3, 2009

penderfyniad

Dw i'n mynd i siarad Cymraeg â phob siaradwr Cymraeg tra bydda i yng Ngymru yn yr haf ma. Wna i wrthod siarad Saesneg â fo. Wedi'r cwbl, mae fy ngwr yn fodlon talu 3,000 o ddoleri i mi gael mynd i Gymru. Y bwriad? I siarad Cymraeg efo'r bobl leol yn bennaf.

Well i mi beidio bod yn swil wrth ei siarad hi ac yn teimlo'n euog am roi trafferth i siaradwyr Cymraeg efo fy Nghymraeg  llai-na-rhugl.

Dw i'n gwybod y ca i fy nhemtio i droi i'r Saesneg yn yr amser gwan. Dyna pam mod i'n sgwnnu fy mhenderfyniad yma i fy atgoffa i fy hun ohono fo. 

8 comments:

Chris Cope said...

Pryd wyt ti'n dod i Gymru? Bydda' i'n siarad Cymraeg â ti.

Emma Reese said...

Diolch yn fawr! Ddiwedd mis Gorffenaf a ddechrau mis Awst. Bydda i'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd. Ol reit, dim Saesneg!

Aran said...

Lle byddi di'n aros? Gad i ni wybod os byddi di yng Ngwynedd o gwbl, mi fydd hen ddigon o bobl yn fodlon gwrthod siarad Saesneg efo chdi...;-)

Corndolly said...

A finnau, wrth gwrs !! Ond cofiaist ti'r dro diwethaf a ddest ti i Gymru? Roeddet ti'n gallu dod o hyd i fwy o bobl yn ein hardal a oedd yn siarad yn Gymraeg - Cofia y dyn ar y Stryd Fawr sy wedi bod i Siapan - a'r dyn yng Ngorsaf Trên Wrecsam ! A rwyt ti'n hapus iawn i siarad yn Gymraeg i fi dryw'r amser. Dw i ddim yn credu y bydd gen ti unrhyw fath o broblem o gwbl wrth siarad Cymraeg â phawb.

Emma Reese said...

Aran: Bydda i'n aros yn Llanberis y rhan fwya o'r amser. Gobeithio y ca i dy gyfarfod di a Catrin ac Iestyn hefyd, ella ym maes yr Eisteddfod. Wna i alw heibio i stondin y Cymuned siwr.

Corndolly: Ti'n iawn ond roeddwn i dan bwysau i droi'r Saesneg hefyd ac wnes i ildio sawl tro gwaetha'r modd. Byth eto (gobeithio!)

Aran said...

Llanber? Dim yn bell o gwbl, felly. Wnawn ni edrych ymlaen at dy weld di...:-)

Linda said...

Mi wnai dy atgoffa di hi hefyd ;)
Yn edrych ymlaen i siarad Cymraeg efo ti yn Llanberis , yn Y Bala ayb. A beth am ar gopa'r Wyddfa ?

Emma Reese said...

Syniad da!