Thursday, May 28, 2009

eco'r wyddfa


Mae gen i gopi o rifyn Mawrth Eco'r Wyddfa yn fy llaw, diolch i Angela o Canada sy'n digwydd dod o Lanberis yn wreiddiol a wnaeth ei yrru fo ata i'n ddiweddar.

Bydda i'n darllen erthyglau papurau bro'r gogledd ar y we'n aml ond dyma'r tro cynta i mi gael fersiwn papur Eco. Dw i wedi bod yn pori drwyddo'n ddiolchgar. Mae popeth yn ddiddorol gan gynnwys yr hysbysebion - "Rhowch gyfle i fusnesau Cymreig lleol ddangos eu gwerth yn hytrach na chwmniau dyfod ac archfarchnadoedd Seisnig!" Sgrifennes i i lawr enwau rhai pobl yn gobeithio y cawn i gyfleoedd i'w cyfarfod cyn hir.

2 comments:

Linda said...

Mae'r papurau bro i'w canmol yn fawr iawn .Mi fyddai'n dilyn hynt a hanes 'Y Bigwn' [ Dinbych ] , 'Y Bedol' [Rhuthun] a'r 'Arwydd' [ Amlwch] ar dudalen y BBC o dro i dro . Ond wrth gwrs mae cael y papur o dy flaen yn llawer iawn gwell !Falch o weld dy fod ti wedi medru cael gafael ar gopi o Eco'r Wyddfa.

Emma Reese said...

Mae'n wir ddiddorol. Mae rhai pobl hyd yn oed yn byw'n agos iawn o'r llety byddai'n aros ynddo.