Sunday, May 31, 2009

ffefryn newydd

Mae gen i ffefrynnau ymysg y siaradrwyr Cymraeg. Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dod o'r gogledd wrth reswm. Des i ar draws ffefryn newydd tra oeddwn i'n gwrando ar y Post Cyntaf ddydd Sadwrn. Barry Thomas, dirprwy olygydd Golwg ydy o. Roedd o'n siarad am bynciau amrywiol o Susan Boyle i ffliw moch. Dw i'n gwirioni ar ei acen gref ogleddol! Os oes awydd arnoch chi ei glywed o, bydd o'n cychwyn tua 17.30 o'r dechrau.

3 comments:

Gwybedyn said...

ddim yn *rhy* ogleddol, chwaith - mi ddeallais i bron pob gair! :)

Emma Reese said...

A finna! O Gaernarfon mae o'n dod, dw i'n meddwl. (Dw i wedi clywed pethau arswydus am y dafodiaith yno.)

Gwybedyn said...

a minnau (gan ffrindie o Fangor!) ;)