Thursday, August 27, 2009

côr merched llanberis (30/7/09)


Es i i glywed côr merched Llanberis yn ymarfer yng Nghapel Coch ar y noson honno. Canon nhw nifer o emynau a chaneuon Cymraeg gan gynnws Bythwyrdd a 'I'll Keep a Welcome,' yr unig gân Saesneg. Roedden nhw'n ardderchog ac roedd eu canu mor nerthol er bod rhyw ddeg o'r aelodau i ffwrdd. Dydyn nhw ddim yn cystadlu yn yr Eisteddfod serch hynny. Dim ond er mwyn mwynhau canu a rhoi mwynhad i'r bobl eraill maen nhw'n canu. Felly maen nhw'n perfformio o bryd i'w gilydd.

Ces i sgwrs ddymunol gyda rhai ohonyn nhw ar ôl yr ymarfer. Argymellodd pawb i mi brynu 'Wellingtons' ar gyfer yr Eisteddfod!

2 comments:

neil wyn said...

Mae hi wedi bod yn braf cael darllen am dy brofiadau draw yng Nghymru. Wnest ti lenwi dy amser yn dda! Meddylaias i am batsh Russel a'i ddarllediadau difyr iawn wrth pasio arwydd i Rhosgadfan, ond meddyliais i ddim am fentro i'w weld, da iawn ti!

Emma Reese said...

Diolch! Mae 'na bob math o lysiau'n tyfu'n braf yno. Ond welon ni mo'i gywion ieir enwog gwaetha'r modd.