Rhaid sôn am y nofel hon rwan achos mai llyfr mor dymhorol oedd o i mi ei ddarllen oedd yn bwrw wythnos yn Llanberis.
Stori am Goets Fawr sy'n cludo pyst o Lundain i Gaergybi yn y 19 ganrif ydy hi ac mae'r stori yn cyrraedd ei huchafbwynt wrth y Goets yn mynd trwy Fetws-y-Coed a Dyffryn Ogwen.
Er bod y stori ei hun yn ffuglen, gallai'r pethau ddigwyddodd yn y stori fod wedi digwydd yn aml ar yr adeg honno - gyrrwr garw oedd yn feddw ond yn trin ei geffylau'n fedrus, gârd mewn cot goch yn chwythu ei gorn wrth i'r Goets gyrraedd trefi, pedwar ceffyl gyda Coets Mêl tu eu hôl nhw'n rhedeg fel gwynt mewn llawn edmygedd pobl y trefi, teithwyr tu mewn a thu allan... Roedd yna ddedf bod y pyst i fod i gyrraedd eu cyrchfan ar draul popeth arall. Tasai'r Goets wedi methu, byddai'r gârd gorfod marchogaeth gyda bag y pyst i'r gyrchfan. Ac tasai'r ceffylau wedi methu, byddai fo gorfod cerdded boed storm neu eira!
Diolch i'r nofel mor gyffrous, roeddwn i'n medru treulio'r prynhawn gwlyb yn fy llofft yn hynod o ddymunol.
3 comments:
Dwi heb ddarllen unrhywun o lyfrau T. Llew Jones, ond mae dy ddisgryfiad o'r llyfr hon yn gwneud i mi feddwl dylsen nhw fod ar fy rhestr darllen!
Dylen, wir! Mae'r nofel hon yn allan o brint ond mae 'na nifer mawr (rhyw 50) o lyfrau ganno fo.
Ar ôl i mi orffen 'O law i law' wna i chwilio am y llyfr hwn yn y llyfrgell nesaf. Dw i'n hoffi dy ddisgrifiad.
Post a Comment