Saturday, January 30, 2010
antur yn yr eira
Welais erioed gymaint o eira yn Oklahoma. Roedd rhaid i mi a'r teulu gael mynd yn y byd gwyn cyn i'r eira doddi. Aethon ni drwy'r coed gerllaw'n cerdded am oriau. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod nhw mor drwchus. (Dan ni byth yn cerdded ynddyn nhw pan fydd hi'n braf er mwyn cadw draw oddi wrth 'ticks.') Roedd yn hyfryd cerdded ar yr eira ysgafn fel siwgr powdr. Roedd o'n flasus hefyd! Wedi blino'n braf.
Friday, January 29, 2010
y tywysog bach ac eira
Mae'r rhew wedi troi'n eira. Dim gwynt. Mae darnau gwynion yn disgyn yn ddistaw ers oriau.
Dw i wedi bod yn darllen The Little Prince i'r mab ifancaf yn ddiweddar. Darllenais i ond rhan ohono fo (am yr het a'r eliffant) yn Japaneg yn yr ysgol amser maith yn ôl. Mae'r llyfr bach yn gwneud i chi feddwl beth sydd tu ôl y stori ryfedd. Des i ar draws y llinell hon heddiw:
"It is the time you have wasted for your rose that makes your rose so important."
Mmm... darn o ddoethineb.
Thursday, January 28, 2010
storm rew eto
Dechreuodd hi rewi pnawn 'ma. Mae hi'n addo tywydd mawr, ac mae'r ysgolion a hyd yn oed y brifysgol leol wedi datgan y bydden nhw'n cau yfory. Dw i mor falch fy mod i wedi gorffen gyrru am heddiw. Cawson ni storm rew ddychrynllyd y llynedd. Gobeithio yr eith y storm hon heibio heb achosi cymaint o ddifrod y tro 'ma.
Saturday, January 23, 2010
ni fedrwn ddangos
Do, codais am bump ond methu gweld y rhaglen. Dyma a welais ar y sgrin: Ni fedrwn ddangos Cymry Rhyfel Cartref America. Tybiwn mai ond rhai rhaglenni byw sydd ar gael wedi'r cwbl.
Friday, January 22, 2010
codi'n fore
Dw i mor falch fy mod i'n cael gwylio rhaglenni S4C ar y we unwaith eto er ond rhai byw sy ar gael. Mae hynny'n golygu bod rhaid i mi fynd at y cyfrifiadur amser penodol i wylio fy hoff rhaglenni. Does dim problem gyda'r newyddion ac Wedi 7 ond am ryw reswm neu'i gilydd mae fy hoff rhaglenni eraill yn tueddi i gael eu darlledu yn y bore. Bore yng Nghymru = canol nos yn yr Unol Daleithiau.
Faswn i ddim am godi am 2:30 i wylio Popeth yn Gymraeg ond baswn i am wylio Cymry Rhyfel Cartref America yn seiliedig ar ymchwil Dr. Jerry Hunter bore fory. Mae hi'n swnio'n hynod o ddiddorol wedi i'r teulu newydd orffen fideo Rhyfel Cartref digwydd bod. Mae gwefan S4C yn rhoi cymaint o wybodaeth ryfeddol. Well i mi fynd i'r gwely'n gynnar! Am 5 (11 GMT) dechreuith y rhaglen gyda llaw.
Wednesday, January 20, 2010
croeso'n ôl i dogfael
Dyma bleser mawr gweld post newydd Dogfael y bore ma am y tro cyntaf ers amser. Roeddwn i'n meddwl tybed oedd o'n iawn. Mae o wedi bod yn brysur wrthi'n symud tŷ.
Yn ogystal â mwynhau ei hanes diddorol , dw i'n cael dysgu geiriau neu ymadroddion newydd bob tro bydda i'n darllen ei flog. Gair newydd a ddysgais i heddiw oedd 'trugareddau.' Mae o'n golygu mor wahanol i'w ffurf unigol!
Gan nad oes modd i bostio sylwadau i'r blog ar hyn o bryd, gadewch i mi ddweud, "croeso'n ôl, Dogfael!"
Tuesday, January 19, 2010
gormod o wallau?
Dechreues i gadw dyddiadur Cymraeg ar y cyfrifiadur wythnosau'n ôl. Wrth gwrs fy mod i'n mwynhau sgrifennu'r blog hwn ond fedra i ddim sgrifennu popeth ynddo fo wrth reswm ac mae'n haws teipio na sgrifennu ar bapur. Wedi llenwi hanner dwsin o dudalennau, ces i fy rhybuddio gan Microsoft Word gynnau bach bod yna ormod o gamsillafu a chamgymeriadau gramadegol! Am wyneb! Mi wna i ddal ati wrth gwrs.
Monday, January 18, 2010
esgidiau call
Mae eisiau esgidiau newydd ar un o fy merched, a dyma ni'n mynd i Wal-Mart. Cafodd hyd i bâr unigryw, sef esgidiau a gafodd eu gwneud â phlastig wedi'i ailgylchu. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o ffasiwn beth. Maen nhw'n edrych yn ddigon cyffredin. Ac maen nhw'n reit gyfforddus chwedl fy merch. Am ryfeddol!
Sunday, January 17, 2010
yr ogof
Dw i ddim yn rhy hoff o nofelau Beiblaidd a dweud y gwir oherwydd bod y cymeriadau'n tueddu i gael eu datblygu'n ormodol. Ond mwynheues i "yr Ogof" gan T.Rowland Hughes. Nofel am Joseff o Arimathea ynghyd â'r cymeriadau go iawn a rhai dychmygol yn ystod yr wythnos cyn i Iesu gael ei groeshoelio ydy hi.
Yr hyn ydw i'n ei hoffi mwyaf ydy bod T.Rowland heb ychwanegu dim byd at beth ddwedodd Iesu. Roedd popeth a ddwedodd o yn y nofel oedd yn ddyfyniadau uniongyrchol o'r Beibl (fersiwn William Morgan.) Ac eto drwy ddisgrifiadau manwl (rhy fanwl o bryd i'w gilydd) o gymeriadau eraill a oedd yn hollol gredadwy a'r digwyddiadau, dangosodd T.R. yr wythnos yn fyw. Mae'n amlwg ei fod o wedi gwneud y gwaith ymchwilio'n drylwyr.
Doeddwn i ddim yn siŵr serch hynny sut byddai fo'n diweddu'r stori, ond ches i mo fy siomi. Falch o weld iddo orffen mewn llawn gobaith.
Thursday, January 14, 2010
cwyd dy galon
Siân James ydy un o fy hoff gantorion. Er fy mod i'n hoff iawn o "yr Eneth Glaf" gynni hi, roedd hi'n hynod o anodd deall ystyr rhai geiriau pan brynes i ei CD flynyddoedd yn ôl heb fod yn gyfarwydd â Chymraeg ffurfiol ar y pryd. Wrth i mi wrando ar y CD unwaith yn rhagor heddiw, roeddwn i'n cofio i mi gael cymaint o drafferth dyfalu beth yn union ydy "gwelier" ar y llinell "y gwelir heddiw flodau'r haf." Rhywbeth i wneud â "gweld" neu "gwely" neu beth?
Dw i'n dal heb wybod beth ydy "it" ar "haws it wenu ar ei hôl." Fasai rhywun medru taflu golau arna i?
Wednesday, January 13, 2010
diwrnod golchi
A dweud y gwir, bydda i'n golchi bob yn ail ddydd o leiaf. Roeddwn i'n arfer taflu bron i bob dilledyn i'r peiriant sychu fel y rhan fwyaf o'r Americaniaid ond penderfynais i roi cymaint o'r dillad ag sy'n bosibl ar lein yn ddiweddar. Does gen i ddim lein y tu allan, felly maen nhw'n cael eu sychu'r tu mewn. Mae'r bil trydan yn llai o lawer bellach.
Tuesday, January 12, 2010
geiriau bach
Dw i newydd sylweddoli wrth wrando ar sain y cwrs Wlpan fy mod i wedi ynganu "pymtheg" fel "pum theg." Mae'n dda gen i benderfynu gwrando ar Gyflwyniad er ei bod o'n ymddangos yn sylfaenol.
Gair bach arall mor gyffredin roeddwn i'n ei ynganu'n anghywir ydy "diolch." Roeddwn i'n dweud "dioch" ers blynyddoedd. Yna yn Londis yn Llanberis, dwedodd hogan tu ôl y cownter, "dio l ch" yn araf iawn wrtha i fel y medrwn i glywed y "l" yn iawn. Am sioc!
Mae'n siŵr fy mod i'n ynganu mwy o eiriau'n anghywir heb sylweddoli. Dyma berygl i hunan-ddysgu.
Saturday, January 9, 2010
aderyn bach
Daeth aderyn bach i'r cyntedd (porch) blaen i dreulio'r nos rewllyd. Rhaid bod y golau yn rhoi tipyn o wres iddo fo. Mae o'n clwydo ar fowldin cul y wal. Gosododd y gŵr ddarn o bren ar y cornel ond mae'n debyg bod yr aderyn yn amheus o'r ddyfais 'na. Mae o'n dal ar y mowldin. Dan ni'n mynd i adael y golau trwy'r nos. Gobeithio na neith o syrthio yn ei gwsg.
Friday, January 8, 2010
mae'n oer!
Ydy, hyd yn oed yn Oklahoma. 1F/-17C ar hyn o bryd tua 9:30 yn y bore er bod yr haul yn disgleirio. Roedd yr ysgolion wedi cau ddoe wedi i'r ffyrdd yn rhewi'n gorn. Heddiw dim ond un ysgol sy'n agor sef ysgol ein plant ni. Dydy'r ffyrdd ddim yn edrych yn wael bellach a dweud y gwir.
Bydda i'n medru gwybod pa mor oer ydy hi yn ôl y ffenestri (y tu mewn, cofiwch.) Dyma'r tro cyntaf i mi weld cymaint o rew arnyn nhw.
Wednesday, January 6, 2010
anrheg o hawaii
Daeth y gŵr â rhywbeth gwych yn anrheg o Hawaii - dim cnau Macademia na phersawr trofannol ond seinyddion i MAC Mini wedi'u gweld nhw ar sêl yno. Dydy'r rhai sy gynnon ni ddim yn cydweithio â'n cyfrifiadur newydd. Rodd yn dipyn o boen gorfod defnyddio clust ffonau bob tro. Mae'r rhai newydd yn well o lawer na'r lleill ac mae Radio Cymru yn atseinio drwy'r tŷ bellach. Bydda i'n medru smwddio a mwynhau gwrando ar raglenni Cymraeg unwaith eto.
Monday, January 4, 2010
yn ddistaw a chynnes
Dechreuodd yr ysgol heddiw. Mae hi mor ddistaw gartref wedi i'r plant fynd. Mae'n oer hefyd, 16F/-9C y bore 'ma ond dim eira.
Dan ni'n cadw'n gynnes er gwaetha'r tymheredd, diolch i'r llosgwr logiau ffyddlon. Ond tra bydd y gŵr a'r mab hynaf i ffwrdd, fi sy'n gwneud y gwaith nôl y logiau o'r garej lawr y grisiau i fyny i'r ystafell fyw. Rhaid cludo rhyw bum gwaith i lenwi'r blwch logiau. O leiaf bydda i'n gynnes fyth ar ôl gorffen y gwaith.
Sunday, January 3, 2010
trychinebau
Mae rhywbeth yn tueddu i ddigwydd gartref am ryw reswm neu'i gilydd tra bod y gŵr oddi cartref. Ac mae o'n mynd ar daith fusnes dair gwaith y flwyddyn o leiaf. Aeth un o'r plant yn sâl iawn o'r blaen. Achosais un o'r ddwy ddamwain gar fach yn yr eira flynyddoedd yn ôl hefyd. Unwaith torrodd drws y garej chwap ar ôl iddo adael am ei daith.
Roeddwn i'n falch nad oes yna drychineb wedi digwydd yn ddiweddar. Ond y bore 'ma methodd y car gychwyn pan oeddwn i a'r plant ar fynd i'r eglwys. Yn ffodus cafodd y gŵr lifft i'r maes awyr y tro 'ma yn hytrach na gyrru ei gar a'i adael yn y maes parcio yno. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i erioed wedi defnyddio gwifrau cyswllt. Gadawa i'r gwaith i'r gŵr i'w wneud ar ôl iddo ddod yn ôl yr wythnos 'ma.
Saturday, January 2, 2010
tymor arall
Daeth yr amser i dynnu'r goeden Nadolig i lawr ynghyd â'r holl addurniadau. Roedd y plant iau'n gyffro i gyd pan oedden nhw'n ei chodi wythnosau'n ôl, ond mae hi dipyn yn drist rhoi popeth yn ôl yn y blychau a gweld y cornel lle'r oedd y goeden arno fo.
Aeth y mab hynaf yn ôl i'r brifysgol yn Arkansas, a dechreuodd y ferch hŷn weithio'n rhan amser fel merch trin gwallt unwaith eto nes ffeindio swydd athrawes yn Japan. Mae'r tŷ yn hanner wag bellach.
Eto i gyd mae yna dymor i bopeth dan y nef. Dw i'n medru gweld y plant yn rhedeg o gwmpas y cae dros y ffordd. Well i mi fynd allan i gerdded hefyd.
Friday, January 1, 2010
2010
Mae'n anodd credu bod blwyddyn newydd wedi cyrraedd yn barod. Treuliais i Nos Galan yn ddigon tawel gyda'r plant. Roedden nhw i gyd eisiau aros ar eu traed nes gweld y flwyddyn newydd. Clywon ni ambell i dân gwyllt yn y pellter. Aeth y ddau hŷn i gopa'r bryn yn Arkansas gyda ffrindiau iddyn nhw i weld y wawr gyntaf yn ôl y traddodiad yn Japan. (Maen nhw'n cysgu wrth y tân ar hyn o bryd!)
Gyrrodd y gŵr luniau o Hawaii. Mae o'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser gyda'i rieni ond aeth o â thri myfyriwr o'r brifysgol yma sy ar eu gwyliau yno o gwmpas yr ynys prynhawn ddoe. Mae gan Fai Hanauma olwg hyfryd. Bues i yno dros 20 mlynedd yn ôl.
Subscribe to:
Posts (Atom)