Friday, January 8, 2010

mae'n oer!


Ydy, hyd yn oed yn Oklahoma. 1F/-17C ar hyn o bryd tua 9:30 yn y bore er bod yr haul yn disgleirio. Roedd yr ysgolion wedi cau ddoe wedi i'r ffyrdd yn rhewi'n gorn. Heddiw dim ond un ysgol sy'n agor sef ysgol ein plant ni. Dydy'r ffyrdd ddim yn edrych yn wael bellach a dweud y gwir.

Bydda i'n medru gwybod pa mor oer ydy hi yn ôl y ffenestri (y tu mewn, cofiwch.) Dyma'r tro cyntaf i mi weld cymaint o rew arnyn nhw.

5 comments:

Linda said...

Moses y bratia ...mae hynny'n oer ! Ydi hi mor oer a hyn fel arfer yr adeg yma o'r flwyddyn ?

neil wyn said...

Gallen ni uniaethu a ti ar ran yr oerni (am unwaith! er bod ni'n hoff iawn o gwyno am y tywydd yn y wlad hon), wrth i'r tymherydd yn disgyn lawr i -21c yn yr Alban, ac mor isel ag -16c yng Nghymru fach. I rhoi hynny mewn cyd-destun Prydeinig, -27c yw'r record ar hyn o bryd, ond yn ôl yr arbenigwyr mae 'na bosibilrwydd o dorri'r record hon dros yr wythnos 'ma,
Fydd gynnon ni rywbeth i gwyno amdan wedyn!!

Emma Reese said...

Nac ydy wir, Linda. Mae'n anarferol iawn.

Neil, mi gawn ni gyd-deimlo'n gilydd o leiaf.

Corndolly said...

Ydy. Mae'n anodd credu fod ti wedi cael tymheredd fel 'na yno. Aeth y tymheredd yma i lawr at -10 ac o'n i'n meddwl bod hwnna yn oer !! Dyn ni'n disgwyl mwy o eira prynhawn 'ma, ond gawn ni weld. Sut mae hi yno rŵan?

Emma Reese said...

Mae hi'n cynhesu gryn dipyn. 34F/1C ydy hi rŵan tua 2 p.m.