Wednesday, September 29, 2010

trwy ras duw, tywysog cymru


Rhaid cyfaddef bod gen i ond gwybodaeth fratiog am Owain Glyndŵr cyn i mi ddarllen y llyfr hwn. Mwynheais i fo'n fawr er bod rhaid defnyddio geiriaduron yn aml. Mae'r dyn anhygoel a'i gyfoedion ynghyd â'r digwyddiadau cynhyrfus ac echryslon yn dod yn fyw drwy ysgrifbin R.R.Davies. Fydd Owain yn dal yn symbol o freuddwyd y Cymry? Mae'n dibynnu.

Dylwn i fod wedi darllen y llyfr cyn mynd i Gorwen yr haf 'ma!

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n falch wnest ti fwynhau'r llyfr. Mae nifer o ddysgwyr yn y dosbarth nos wedi darllen y cyfieithiad Saesneg a mwynhau. Mae'n hanes sydd wedi cael ei anwybyddu mewn ysgolion yng Nghymru), tan cymherol diweddar!

Emma Reese said...

Diolch am adolygu'r llyfr hwn, Neil. Dw i'n credu'n siŵr mai dysgu'r plant hanes Cymru ydy'r ffordd orau i hyrwyddo Cymreictod a'r iaith Gymraeg.