Thursday, December 2, 2010

pwy sy'n dysgu eidaleg?

Dw i newydd ddechrau dysgu Eidaleg oherwydd y ffrindiau newydd o'r Eidal. Iaith hardd a chymharol hawdd ydy hi (llawer haws na'r iaith Fietnam!) Dim ond deunyddiau ar y we dw i'n eu defnyddio ar hyn o bryd rhag ofn i mi beidio parhau. Mae yna gymaint ar gael ond dydy'r un ohonyn nhw'n taro deuddeg; mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw ar gyfer twristiaid. Does gen i ddim diddordeb ynddyn nhw achos mod i ddim yn bwriadu mynd i'r Eidal ar hyn o bryd. (Wedi meddwl, does gen i ddiddordeb yn iaith dwristiaid Cymraeg erioed chwaith. Mae hi'n hollol ddiflas yn fy nhyb i.)

Yna des i ar draws y safle gwych hwn. Fe gewch chi ddysgu sgyrsiau a geirfa gyffredin. Cyflwynir y gramadeg angenrheiddiol o dipyn i beth. Mae'r perchennog yn bwriadu ychwanegu mwy o wersi nes ymlaen.

Pwy sy'n dysgu Eidaleg? Gadewch i mi wybod.

2 comments:

neil wyn said...

Mae gen i ffrind da sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn dysgu Eidaleg, er mae o wedi gorfod rhoi saib i'r dosbarthiadau eleni. Mae o'n poeni am golli'r hyn ei fod yn gwybod, felly pasia i fanylion y wefan italianizeyourself ato fo, am ei fod yn wastad edrych am adnoddau eraill i'w defnyddio, ac mae o'n mynd i Florens yn yr haf.

Emma Reese said...

Os ydy dy ffrind yn dysgu Eidaleg ers blynyddoedd, ella bydd gwersi'r wefan honna'n rhy sylfaenol. Ond fel dwedais i, mae'r perchennog yn bwriadu ychwanegu mwy pan geith o amser. Bydd yn syniad da i dy ffrind sgwennu ato fo i'w annog.