Wednesday, September 29, 2010

trwy ras duw, tywysog cymru


Rhaid cyfaddef bod gen i ond gwybodaeth fratiog am Owain Glyndŵr cyn i mi ddarllen y llyfr hwn. Mwynheais i fo'n fawr er bod rhaid defnyddio geiriaduron yn aml. Mae'r dyn anhygoel a'i gyfoedion ynghyd â'r digwyddiadau cynhyrfus ac echryslon yn dod yn fyw drwy ysgrifbin R.R.Davies. Fydd Owain yn dal yn symbol o freuddwyd y Cymry? Mae'n dibynnu.

Dylwn i fod wedi darllen y llyfr cyn mynd i Gorwen yr haf 'ma!

Monday, September 27, 2010


Mae'r hydref wedi dod 'ma - reit sydyn.
Gwisgais gynnes ddilledyn ar brys.


Saturday, September 25, 2010

wy

Wrth i mi fynd drwy "Clywed Cynghanedd" gan Myrddin ap Dafydd yn ara bach, dw i wedi sylweddoli pa mor fregus ydy fy ynganiad. Rhaid cyfaddef mod i heb ei feistroli hyd yma gan mai drwy lyfrau dw i wedi dysgu yn y bôn. Des i at y wers ar 'wy' ac es i ar goll. Diolch i rai roiodd help llaw i mi mewn fforwm, medra i weld goleuni yn y pellter.

Yna, daeth gwers glywais flynyddoedd yn ôl i fy nghof; gwers gyntaf un Catchphrase gan Cennard Davies. Mae o'n cael ei wylltio gan rai sy'n ynganu Clwyd fel Clwid yn hytrach na Cloooid. Doeddwn i ddim yn ei ddeall o'n iawn ar y pryd ond mae'n amlwg bod y wers yn aros gyda fi. Dyma glywed y ffeil sain unwaith eto; hŵre! Dw i'n clywed y gwahaniaeth ac yn deall beth mae'r aelodau clên o'r fforwm yn trio ei ddweud.


Friday, September 24, 2010

o las vegas


Mae'r gŵr yn Las Vegas bellach yn mynychu cynhadledd optometreg. Mae ei frawd a'i deulu'n digwydd byw yno; gyda nhw mae'r gŵr yn aros felly. Ac mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal yn Cesar's Palace lle mae brawd y gŵr yn digwydd gweithio. Gan fod y gynhadledd yn mynd ymlaen bron i 12 awr bob dydd, does dim llawer o amser iddo wneud pethau eraill, ond o leiaf mae o'n cael gweld ei deulu am y tro cyntaf ers amser.


Tuesday, September 21, 2010

archebu llyfrau

Dw i newydd archebu dau lyfr Cymraeg wedi cael cynnig anhygoel gan Abebooks (cludiant am ddim.) Gwenddydd (nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith ddiweddaraf) a Cheffylau'r Cymylau (llyfr i blant) gan Jerry Hunter ydy'r llyfrau. Wedi clywed cymaint o ganmoliaeth gan lawer o bobl gan gynnwys Eifion Glyn, roeddwn i'n meddwl am ddarllen Gwenddydd rywdro. Er mod i'n dal i ddarllen Owain Glyn Dŵr gan R.R.Davies heb sôn am lyfr Cymraeg arall brynais i'n ddiweddar, fedrwn i ddim colli'r fath o gyfle. Cwmni llyfrau yn Ynys Gurnsey sy'n eu gwerthu nhw gyda llaw!

Tuesday, September 14, 2010

y diweddglo

Mae'r hogan o Abertawe ar ei ffordd adref ar hyd o bryd wedi treulio diwrnodau *anhygoel* yn y dref fach yma. (* chwedl hithau) Cafodd hi amser mor dda bod hi wedi darbwyllo ei rhieni i ddod yma gyda hi'r flwyddyn nesa! Hefyd mae hi eisiau dechrau dysgu Cymraeg. Gobeithio bydd hi o ddifrif. Gobeithio bydd gan Gymru siaradwr Cymraeg arall.

Monday, September 13, 2010

i bentref cherokee


Es i â'r hogan o Abertawe i bentref Cherokee sydd yn ymyl y dref. Mae yna amgueddfa, arddangosfa Trail of Tears, ayyb. Fe gewch chi fynd ar daith fer dywys hefyd i weld adeiladau brodorol a chael cip ar fywyd Cherokee fel oedd. A dweud y gwir, roedd y tro cyntaf i mi ymweld â'r pentref er mod i'n byw yma ers 13 mlynedd. Roedd yn braf cyfarfod ein tywyswr. Iaith Cherokee ydy ei iaith gyntaf. Does dim llawer o bobl Cherokee sy'n siarad eu hiaith eu hun bellach heb sôn am ei siarad hi fel eu mamiaith.

Saturday, September 11, 2010

parti penblwydd



Cawson ni barti penblwydd heno (un o'r tri, a dweud y gwir.) Mae un o fy mhlant yn 17 oed. Aeth hi i farchogaeth gyda'i ffrind orau ynghyd â'r hogan o Abertawe ddaeth â'i cowboy boots hyd yn oed. Canon nhw karaoke wedi marchogaeth. Yna amser bwyd; pitsa a chacen siocled. Roedden ni'n cael noson braf yn sgwrsio a chwarae gêm bwrdd.

Friday, September 10, 2010

cwrs alffa


Mae'n heglwys ni newydd ddechrau rhedeg Cwrs Alffa. Mae o'n cynnig cyfleoedd i unrhywun ofyn cwestiynau am Gristnogaeth mewn awyrgylch anffurfiol. Wedi cael ei drefnu gan Nicky Gumbel o Lundain rhyw 20 mlynedd yn ôl, mae Cwrs Alffa wedi lledu i dros 160 o wledydd yn y byd.

Dan ni'n defnyddio dau fersiwn; Saesneg a Japaneg. Mae'r gŵr yn arwain y cwrs yn Japaneg yn ein cartref ni. Heno roedd y wers gyntaf. Roedd chwech o fyfyrwyr ynghyd â fy nheulu. Gwelon ni fideo ar ôl swper Mecsicanaidd a chlywed Nicky'n dysgu'r wers mewn dull syml a chlir gyda digon o jôcs (yn Japaneg goeth.) Aeth sesiwn gwestiynau'n dda. Mae'r cwrs yn fuddiol i Gristnogion hefyd gan fod o'n eu hatgoffa elfennau pwysig y ffydd.

Tuesday, September 7, 2010

swper


Gwahoddais i'r hogan o Abertawe i swper heno. Mae gynni hi hanes anhygoel; mae hi wedi ymddiddori yn Indiaid Cochion a daeth i'r dref fach ddi-nod yn benodol i dreulio rhyw ddeg diwrnod heb ymweld â nunlle arall yn yr Unol Daleithiau. Hwyrach dylen ni gyfnewid ein cartrefi ni.

Fe gynigais i fynd â hi o gwmpas yn fy nghar ond mae fy ffrindiau yn yr eglwys yn gofalu amdani hi'n dda fel nad oes dim byd i mi wneud. "Dw i wedi mwynhau pob munud gyda nhw," chwedl hithau (hynny ydy yn Saesneg.)

Dyma'r blodau prydferth ges i gynni hi heno. (Gweler y llun ar y dde.)

Sunday, September 5, 2010

o abertawe


Fe wnes i gyfarfod un arall o Gymru'r bore 'ma. Gobeithio bydd y tuedd anarferol yn parhau. Mae merch o Abertawe wedi dod i'r dref hon i weld Gŵyl Cherokee'n unig swydd. Mae hi'n digwydd aros gyda ffrind i mi sy'n rhedeg gwely a brecwast, a daeth hi'n heglwys ni. Clywais i si ymlaen llaw, a dyma wisgo fy nghrys T sy'n dweud "siaradwch Gymraeg â fi!" Cawson ni sgwrs ddymunol, ond yn Saesneg oherwydd mai un ddi-Gymraeg ydy hi. Dw i'n falch o'r tywydd braf iddi gael mwynhau gweddill o'i gwyliau.

Saturday, September 4, 2010

ymwelwyr o gymru!





Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i mi, dim oherwydd penwythnos Labor Day na Gwyl Cherokee ond ces i ymwelwyr o Gymru am y tro cyntaf erioed yn fy nhŷ i.

Eifion Glyn ac Iwan Roberts o raglen y Byd ar Bedwar ddod draw. Daethon nhw i Oklahoma i ddilyn hanes Cymraes sy'n byw ger Oklahoma City ac roedden nhw eisiau cyfarfod siaradwyr Cymraeg eraill yn y dalaith hon (sydd ddim yn niferus) hefyd.

Roeddwn i'n gyffro i gyd yn croesawu'r Cymry. Fe wnes i grasu sgons â mwyar gleision lleol. A doedd yr ystafelloedd erioed wedi edrych mwy taclus. Roedd y ddau'n ofnadwy o glên fel hen ffrindiau. Ces i a'r teulu amser gwych yn sgwrsio gyda nhw.


Friday, September 3, 2010

pethau bychan

Fe wna i sgrifennu pwt yma heddiw i gyfrannu at Bethau Bychan.

Mae'n oeraidd y bore 'ma! Anhygoel! Cawson ni fwy o law Cymreig neithiwr gyda mellten a tharanau hyd yn oed. Mae'r awyrgylch wedi newid dros nos.

Mae penwythnos Labor Day arnon ni. Fel arfer dw i'n prysur baratoi dathliadau penblwyddi tri o'r plant ar yr adeg hon. Maen nhw'n cael eu penblwyddi ar y 6ed, y 7fed a'r 8fed. (Dim arna i mae'r bai!) Eleni, dan ni'n mynd i'w dathlu un heno, un nos Lun a'r llall benwythnos nesa.

Oherwydd y prysurdeb, dw i erioed wedi cymryd sylw ar Wyl Genedlaethol Cherokee o'r blaen. Ond dyma hi os oes gan rywun ddiddordeb ynddi hi. Mae hi'n denu rhyw 90,000 o bobl Cherokee ar draws UDA i'r dref fach hon.

Thursday, September 2, 2010

y wawr

Dw i wedi darllen cylchgronau amrywiol hyd yma gan gynnwys Lingo Newydd roeddwn i'n tanysgrifio iddo fo am flynyddoedd. Y Wawr ydy'r un dw i'n ei ddarllen ar hyn o bryd. Mae erthyglau diddorol ac mae safon yr iaith yn addas i mi; does dim gormod o eiriau newydd ond digon i mi gael eu dysgu. Yr erthyglau fwynheais i fwyaf oedd cyfweliad Catrin Angharad Roberts enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac un Lisa Jones, gwraig Prif Weinidog Cymru.

Wednesday, September 1, 2010

glaw cymreig

Mae hi'n bwrw glaw heddiw, nid dim ond am hanner awr ond trwy'r dydd! Mae'r olygfa mor brin fel ydw i'n sefyll wrth y ffenestr a'i syllu. Roedd pawb a phopeth yn dioddef oherwydd bod yn ofnadwy o sych am wythnosau. Mae tymor alergedd yr hydref wedi dechrau'n gynt hyd yn oed.

Clywais i si byddai criw o Gymru'n dod i Oklahoma heddiw. Hwyrach bod nhw'n dod â'r glaw Cymreig i'r tir sychedig! Mae'r glaswellt brown yn ei sugno'n ddiolchgar.