Ond pe bai o eisiau hybu ei gynllun yn Japan, rhaid iddo newid tipyn achos mai dwy bêl, nid tair sy'n cael eu defnyddio acw. ^^
Thursday, September 29, 2011
dyn eira perffaith
Mae gan rywun yn Efrog Newydd syniad unigryw ynglŷn sut i wneud dyn eira perffaith. Cafodd batent swyddogol hyd yn oed! Efallai rhaid i fy mhlant ddysgu ei gynllun cyn inni gael eira yn y gaeaf.
Wednesday, September 28, 2011
persuasion
Mae tri dosbarth yn dod i lyfrgell yr ysgol ar ddydd Mercher. Daeth un o'r plant yn y 7fed gradd â llyfr i gael ei fenthyg, ond newid ei feddwl wedi pum munud ac eisiau llyfr arall. Pa lyfr oedd yr un doedd o ddim ei eisiau wedi'r cwbl? Persuasion gan Jane Austen! Efallai ei fod o ddim yn ddigon hen i gael blas ar ei nofelau hi. (Dw i ddim yn siŵr pam fod o wedi ei dewis yn y lle cyntaf!) Un o fy hoff nofelau ydy Persuasion beth bynnag.
Monday, September 26, 2011
arwr newydd
Bydd yna arwr newydd teledu lleol yn Kagoshima, gorllewin Japan. Hayato ydy ei enw o, un tebyg i nifer mawr o arwyr teledu i blant, a dydy'r gyfres ddim wedi cael ei chynhyrchu gan Kurosawa. Amcan y gyfres ydy hyrwyddo'r ardal a'i chynnyrch. (Mae Hayato'n hoff iawn o'r bwyd a'r diod lleol!)
Yr hyn sy'n fy ymddiddori ydy'r ffaith bydd y cymeriadau i gyd yn siarad tafodiaith Kagoshima. Fel rheol mae cymeriadu rhaglenni plant felly'n siarad y Japaneg safonol ar wahân i ambell i gymeriad ymylol. Rhaid cyfaddef bod yna dueddiad yn Japan i ddirmygu tafodieithoedd a'r llefydd gwledig cyfan. Ac mae'r bobl wledig ar y llaw arall yn tueddu i deimlo'n israddol eu hunan. O ganlyniad mae unrhywun sy'n siarad tafodiaith yn trio ei dileu a thrio siarad y Japaneg safonol oni bai pan maen nhw gyda'u pobol.
Gan ystyried y cefndir felly, mae'n dda gen i weld cyfres teledu sy'n ymfalchio yn ardal wledig ac a'i thafodiaith. Ond mae tafodiaith Kagoshima'n hynod o anodd dallt; ella bydd angen is-deitl!
Friday, September 23, 2011
puzzle
Fuodd Puzzle, un o'n moch cwta ni farw ddoe'n reit sydyn. Er bod hi braidd yn hen ac wedi cael 7 o fabis, roedd hi'n o lew hyd at ddiweddar. Doedd neb yn disgwyl iddi fynd mor sydyn. Claddon ni hi yn yr ardd gefn wrth ochr ei gŵr. Fy ail ferch sydd yn Japan ers dros flwyddyn a oedd ei phiau hi. A dan ni wedi bod yn gofalu am Puzzle a'r ddau eraill tra mae hi i ffwrdd; mae hi i ddod adref y mis nesaf. Fedra i ddim wynebu marwolaeth anifeiliaid anwes.
Thursday, September 22, 2011
doraemon
Bydd rhaid i Gwmni Trên Odakyu ger Tokyo roi'r gorau i'w cerbydau siriol efo darlluniau o Doraemon, sef cymeriad cartŵn poblogaidd Japan oherwydd rhyw reol ddiflas. Mae Doraemon mor boblogaidd ac yn enwog hyd yn oed i'r bobl dramor fel gallai fo gael ei alw'n eicon cenedlaethol Japan. Mae'n ymddangos bod y cerbydau wedi difyrru cynifer o blant ac oedolion yn ogystal. Truan o'r trên.
Tuesday, September 20, 2011
store nordiske
Dw i newydd ddod ar draws hogan o Denmarc sy'n dysgu Eidaleg a Japaneg. Mae'r cyfuniad yn un hynod o ddiddorol i mi oherwydd fel chi'n gwybod mai un o Japan ydw i, a dw i'n dysgu Eidaleg yn ddiweddar. O ran Denmarc - gobeithio nad ydw i wedi blogio am hyn o'r blaen. Os felly, esgusodwch fi; dw i'n tynnu ymlaen! - Roeddwn i'n gweithio mewn swyddfa fach cwmni o Denmarc yn Tokyo amser maith yn ôl, cyn yr adeg cyfrifiaduron.
Det Store Nordiske Telegraph-Selskab oedd enw'r cwmni. Mae ganddyn nhw strwythur ac enw gwahanol bellach. Ffeindiais i lun o'r hen adeilad sydd wedi troi'n fanc erbyn hyn. Er nad oeddwn i erioed wedi ymweld â'r cwmni yn Denmarc, mae'r enw'n fy nwyn atgofion annwyl. Roeddwn i'n nabod rhai o'r staff Danaidd sydd wedi hen ymddeol bellach.
Yn anffodus methais i ddysgu Daneg er fy mod i wedi trio, ac yr unig beth dw i'n ei gofio ydy hwn - mange tak - diolch yn fawr.
Monday, September 19, 2011
diwrnod yn arkansas
Es i ynghyd a'r teulu (sydd ar ôl dw i'n meddwl) i Arkansas ddoe er mwyn ymweld fy mab sy'n astudio ym Mhrifysgol Arkansas.
Cymerodd hi lai nag awr a hanner i Fayetteville drwy fryniau braidd yn hardd. Aethon ni i'r eglwys gyntaf lle mae fy mab yn mynychu a oedd yn llawn o fyfyrwyr y brifysgol. Yna i ffreutur y brifysgol i gael cinio sydyn. Roedd y bwyd yn dda iawn efo digon o ddewis. Roedd yn ddiwrnod y teuluoedd digwydd bod, ac felly roedd yna rieni eraill yma ac acw. Cawson ni gip ar ei ystafell, wedyn chwarae ping-pong yn y neuadd. Mae'r brifysgol yna'n llawer mwy nag un yma. Mae mwy o'r myfyrwyr yn gwisgo dillad efo symbol y brifysgol, sef Razorbacks.
Roedd pawb yn flinedig yn y car adref er bod ni'n cael diwrnod dymunol. Syrthion ni i gyd i gwsg yn braf, hynny ydy heblaw'r gŵr druan a oedd yn gyrru wrth gwrs.
Saturday, September 17, 2011
gnocchi tatws
Roedden nhw'n iawn fel y prawf cyntaf, ond dylwn i fod wedi pwyso'r tatws yn ôl y rysait. (ceisio eu gorffen yn y gegin oeddwn i!) Collodd rhai o'r gnocchi eu siâp yn druenus wrth i mi eu berwi. O ganlyniad, roedden nhw'n fwy tebyg i datws stwns na gnocchi! Ond yn ffodus roedd y saws basil a brynais i'n ddigon blasus i'w achub.
Friday, September 16, 2011
spaghetti
Fe wnes i spaghetti efo saws tomatos i swper (eto.) Mae'r saig ar ein bwrdd yn aml gan fy mod i'n trio perffeithio fy rysait. Wrth wylio nifer o You Tube, sylweddolais i fod yr Eidalwyr yn ychwanegu dŵr poeth a goginiwyd y pasta ynddo at y saws; cyfrinach llwyddiant? Efallai achos bod y spaghetti'n well nag arfer. Dw i'n mynd i drio gnocchi heno.
Thursday, September 15, 2011
glaw o'r diwedd
Dim digon ond o leiaf cawson ni dipyn o law heddiw. Roedd yn oeraidd yn sydyn a rhaid gwisgo siaced pan oeddwn i'n cerdded pnawn 'ma. (Roedd yr "air-conditioner" ymlaen yn ein tŷ ni ddoe!) Mae llawer o bobl yn sâl yr adeg yma oherwydd y tywydd eithafol hwn.
Wednesday, September 14, 2011
enfys
Gwelais i enfys y bore 'ma! Mae'n ofnadwy o sych eto yn yr ardal hon; mae tân ar gae yma ac acw. Arhosodd mwg yn yr awyr drwy'r dydd ddoe hyd yn oed. Roeddwn i'n mawr obeithio bydden ni'n cael glaw heddiw wedi gweld yr enfys, ond mae'n heulog eto gwaetha'r modd. Dysgais i air newydd Eidaleg - arcobaleno (enfys.)
Tuesday, September 13, 2011
y caead
Dw i'n deall teimladau awdur Tokyobling sy'n rhyfeddu at bethau braidd yn gyffredin yn Japan, neu bethau mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn ystyried yn gyffredin.
Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cerdded ar ffyrdd cul Llanberis yn edrych ar y tai teras, ar yr enwau ar eu drysau, y gerddi bychan ac yn y blaen yn ogystal y golygfeydd godidog. Un peth a wnaeth fy nharo i'n rhyfedd oedd caead y twll archwilio (manhole?) triongl. Dw i ddim yn gwybod ydy o'n gyffredin draws Gymru neu'r DU cyfan, ond dw i erioed wedi gweld un tebyg; o leiaf dw i erioed wedi sylwi arno fo nes gweld un yn Llanberis y tro hwn.
Doeddwn i ddim yn sgrifennu amdano fo tra oeddwn i'n adrodd fy hanes, ond ces i fy ysbrydoli gan Tokyobling, a dyma fo.
Friday, September 9, 2011
awgrym i gymru
Dw i newydd ddarganfod gwefan newydd Eidalaidd. Cewch chi weld pethau amrywiol ar y sgrin drwy'r dydd bob dydd - bwyd, llefydd, ffasiwn ac yn y blaen yn Eidaleg efo is-deitolau. Amcan y wefan ydy denu twristiaid i'r Eidal a gwerthu nwyddau a wnaed yn y wlad yna; mae gen i ryw deimlad y byddan nhw'n llwyddo! Yn ogystal, mae hi'n ofnadwy o ddefnyddiol i ddysgwyr Eidaleg.
Pam na wneith Cymru'r un peth? Hynny ydy cynhyrchu rhaglen teledu debyg ar y we sydd ar gael i'r byd? Ar hyn o bryd fel pawb yn gwybod dydy'r rhan fwyaf o raglenni S4C ddim ar gael i rai tu allan i'r DU. Fel mae'n digwydd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n denu twristiaid fel gwledydd eraill yn y byd. Dyma fodd ardderchog i gyflawni'r nod a helpu'r dysgwyr yn y byd ar yr un pryd!
Thursday, September 8, 2011
tokyobling
Dw i'n edmygu awdur Tokyobling. Mae o'n postio blog pleserus bob dydd efo lluniau ardderchog bob tro. Dw i'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i bynciau diddorol ar gyfer fy mlog heb sôn am rai diflas! Wrth gwrs fod o'n byw yng nghanol Tokyo lle mae amrywiol o bethau'n digwydd beunydd. Ac eto camp ydy ei flog, a dw i'n edrych ymlaen at ei ddarllen bob bore.
Wednesday, September 7, 2011
yn y llyfrgell
Mae trefn llyfrgell yr ysgol wedi newid a dw i'n gwirfoddoli dwywaith yr wythnos efo mam y brifathrawes. Mae hi yn ei 80au ac yn wybodus oherwydd bod hi'n arfer gweithio fel llyfrgellydd yn Tulsa. Yn ystod ein hegwyl mae hi'n sôn am ei hanes yn aml pan oedd hi'n byw tramor efo ei gŵr a oedd yn gweithio i Lu Awyr America. Roedden nhw'n byw yn Japan, yr Almaen, Bermiwda ac yn y blaen, ac roedden nhw'n teithio'n helaeth yn y gwledydd tra oedden nhw yno. Cafodd hi ei magu ar fferm yn Oklahoma ac roedd hi'n gyfarwydd â gofalu am wartheg, godro, corddi a'r holl orchwyl ar fferm. Bydd hi'n gwirfoddoli ond tan lyfrgellydd arall yn dod. Yn y cyfamser dw i'n mwyhau cael sgyrsiau diddorol efo hi.
Monday, September 5, 2011
diwedd yr hoe
Daeth y teulu'n ôl wedi cael amser hyfryd wrth y llyn. Roedd y tywydd yn berffaith a chawson nhw gwmni dymunol a bwyd blasus. Ces innau ddiwrnod a noson braf hefyd. Roedd yn anhygoel o ddistaw; fe wnes i beth bynnag roeddwn i eisiau ei wneud heb baratoi swper, tacluso'r tŷ ac yn y blaen. (Roedd rhaid smwddio ond roeddwn i'n gwrando ar bodlediadau wrth wneud y gwaith.)
Mae'r hydref wedi cyrraedd yn sydyn.
Sunday, September 4, 2011
hoe fach
Ces i sioc wrth agor y drws y bore 'ma'n clywed yr awyr oeraidd yn annisgwyl. Mae'r tymheredd yn disgyn o 100F/38C i 75F/24C dros nos. Mae'n wyntog hefyd; efallai bod storm ar ei ffordd.
Mae'r teulu newydd adael am Lyn Tenkiller i gael hwyl efo eu ffrindiau. Byddan nhw'n aros yna dros nos. Mae hynny'n golygu bydda i'n cael hoe fach ar fy mhen fy hun adref (wel, efo'r moch cwta.) Dw i wedi bod mor brysur wedi i'r ysgol gychwyn fis yn ôl, felly dw i'n barod am dipyn o lonyddwch.
Friday, September 2, 2011
stryd y glep
Prynais i'r nofel hon gan Kate Roberts ym Mhalas Print ym Mangor. Rhaid cyfaddef mai'r hyn a fy ysgogi i'w phrynu oedd fy mod i eisiau dangos i'r ferch tu ôl y cownter nid twrist oeddwn i a ddaeth i mewn i siop lyfrau Cymraeg heb feddwl, ond fy mod i'n medru darllen Cymraeg, hyd yn oed Kate Roberts!
Beth bynnag y cymhelliad, mwynheais i hi'n fawr. Dim nofel action ydy hon. A dweud y gwir, y rhan fwyaf o'r pethau'n digwydd ym mhen Ffebi, dynes sy'n gaeth i'w gwely oherwydd damwain dair blynedd yn gynt. Roedd gan Roberts dealltwriaeth graff o natur ddynol - beth sydd ar wyneb a beth sydd o dan ragrith; mae dyn yn medru twyllo ei hun hyd yn oed.
Wedi gorffen y llyfr hwn, archebais i un gan Selyf Roberts. Edrycha' i ymlaen.
Subscribe to:
Posts (Atom)