Tuesday, September 20, 2011

store nordiske

Dw i newydd ddod ar draws hogan o Denmarc sy'n dysgu Eidaleg a Japaneg. Mae'r cyfuniad yn un hynod o ddiddorol i mi oherwydd fel chi'n gwybod mai un o Japan ydw i, a dw i'n dysgu Eidaleg yn ddiweddar. O ran Denmarc - gobeithio nad ydw i wedi blogio am hyn o'r blaen. Os felly, esgusodwch fi; dw i'n tynnu ymlaen! - Roeddwn i'n gweithio mewn swyddfa fach cwmni o Denmarc yn Tokyo amser maith yn ôl, cyn yr adeg cyfrifiaduron.

Det Store Nordiske Telegraph-Selskab oedd enw'r cwmni. Mae ganddyn nhw strwythur ac enw gwahanol bellach. Ffeindiais i lun o'r hen adeilad sydd wedi troi'n fanc erbyn hyn. Er nad oeddwn i erioed wedi ymweld â'r cwmni yn Denmarc, mae'r enw'n fy nwyn atgofion annwyl. Roeddwn i'n nabod rhai o'r staff Danaidd sydd wedi hen ymddeol bellach.

Yn anffodus methais i ddysgu Daneg er fy mod i wedi trio, ac yr unig beth dw i'n ei gofio ydy hwn - mange tak - diolch yn fawr.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Difyr.

A beth sy'n spooky, pan welais y cofond yma ar wefan Blogiadur, roedd cofnod blog gan rhywun arall oddi tano born, yn postio o UDA ac am y Daniaid hefyd!

Rhys Wynne said...

Dylai'r ddolen uchod fod yn mynd at:
http://dyddlyfr-y-bachan-main.blogspot.com/2011/09/elba-pentref-byrhoedlog-yn-iowa-1872.html

Emma Reese said...

DIolch i ti am y ddolen, Rhys. Diddorol, ynte!