llong danfor felen
Wel, ces i sioc wrth wrando ar bodlediad Pigion diweddaraf (17 Hydref) a chlywed cân Japaneg yn sydyn - cyfieithiad o Yellow Submarine. Roedd y Beatles yn ofnadwy o boblogaidd (a dal i fod) yn Japan fel gweddill y byd, felly does ryfedd bod eu caneuon i gyd wedi eu cyfieithu i'r Japaneg. Ond doeddwn i ddim yn disgwyl clywed un ar raglen Dafydd a Caryl. Chwarae teg i Euron Griffiths am drio siarad Japaneg.
2 comments:
clywais y cân hefyd, fersiwn diddorol iawn sy'n gweithio'n dda!
Ond dw i ddim yn licio'r gantores. Mae ganddi lais trwynol!
Post a Comment