
Saturday, July 30, 2016
cawr dewr

Friday, July 29, 2016
crochenydd

Thursday, July 28, 2016
le marche

Wednesday, July 27, 2016
bambŵ
Tuesday, July 26, 2016
ar y traeth

Sunday, July 24, 2016
paratoi at y gaeaf
Saturday, July 23, 2016
rhufain

Friday, July 22, 2016
dewis gorau
Dw i ddim yn cytuno â fo cant y cant, ond dw i'n credu mai Trump ydy'r dewis gorau i America sydd yn prysur chwalu o dan y llywodraeth bresennol. Fel dwedodd y diweddar Arlywydd Reagan, "os oes rhywun yn cytuno â chi 80 y cant, cynghreiriad ydy o."
Thursday, July 21, 2016
blas o ffrainc

Wednesday, July 20, 2016
amrywiaeth mewn pwysau

Mae'r byd yn llawn ohono fo. Dim ond enghraifft fach ydy hon.
Tuesday, July 19, 2016
gwarchodwr
Monday, July 18, 2016
hyd yn oed solomon
Saturday, July 16, 2016
teclyn newydd (i mi)
Friday, July 15, 2016
dyma hi
Thursday, July 14, 2016
dynes lonydd
Wednesday, July 13, 2016
hank you
Roedd fy merch a'i gŵr yn ymweld â ni'r penwythnos diwethaf (iddi fynd at y deintydd lleol.) Pryd bynnag byddai fy mhlant hyn yn aros yma, byddan nhw'n tueddu i adael peth neu ddau bersonol. Pan es i'r ystafell roedd y cwpl yn aros ynddi hi, dyma ffeindio charger ffôn ar y llawr. Gyrrais neges testun at fy mab yng-nghyfraith i ofyn a ydy o ei un o. Ydy. Sgrifennais, "I can nail it tomorrow" gan deipio "n" yn lle "m" ar ddamwain. Atebodd ar unwaith, "hank you."
Tuesday, July 12, 2016
rujum
Monday, July 11, 2016
tour de france

Sunday, July 10, 2016
ateb

Saturday, July 9, 2016
pecyn o israel
Mae o yma! Mae pecyn o Israel newydd gyrraedd! Agorais i fo'n awyddus a chymryd allan yr eitemau wedi'u lapio'n ddiogel. Cynhyrchwyd popeth gan yr Israeliaid lleol sydd yn gweithio'n galed i gynhyrchu cynnyrch a nwyddau o ansawdd uchel:
Potel o olew olewydd (Hebron)
Dates (Dyffryn Jordan)
Granola siocled banana (Ucheldir Golan)
Tywel cegin (ardal Binyamin)
Shakers halen a phupur (Anialwch Jwdea)
Tlws crog arian (Samaria)
Dw i'n gwirioni ar y tlws crog, calon efo ffurf tir Israel yn y canol. Mae'r date a granola yn arbennig o dda. Dw i erioed wedi bwyta date mor flasus yn fy mywyd. Hwn ydy ffordd wych i frwydro yn erbyn BDS a chefnogi Israel.
Potel o olew olewydd (Hebron)
Dates (Dyffryn Jordan)
Granola siocled banana (Ucheldir Golan)
Tywel cegin (ardal Binyamin)
Shakers halen a phupur (Anialwch Jwdea)
Tlws crog arian (Samaria)
Dw i'n gwirioni ar y tlws crog, calon efo ffurf tir Israel yn y canol. Mae'r date a granola yn arbennig o dda. Dw i erioed wedi bwyta date mor flasus yn fy mywyd. Hwn ydy ffordd wych i frwydro yn erbyn BDS a chefnogi Israel.
Friday, July 8, 2016
dim esgus
Does dim esgus dros derfysgaeth a thrais. Dywedir yn aml, fodd bynnag, bod gormes yn gorfodi'r bobl i fod yn derfysgwyr a throseddwyr treisgar. Pe bai'r ddamcaniaeth yn wir, byddai'r Iddewon yn derfysgwyr a throseddwyr mwyaf erchyll yn y byd.
Thursday, July 7, 2016
cwningen
Cychwynnais gerdded am bump o'r gloch a hanner y bore 'ma. Roedd yn hanner tywyll ac roedd y gwynt yn gynnes ar fy mochau. Sylwais i gath wen yn syllu ar ochr arall y ffordd; roedd hi'n barod i neidio. Cwningen frown fach. Roedd y gwningen heb symud er mwyn cuddio oddi wrtha' i. Gwelodd y gath fi a stopio'r hela am sbel, ond ar ôl i mi ei phasio hi, ail-gychwynnodd. Dyma gerdded tuag at y gwningen nes iddi redeg i ffwrdd. Cymer ofal, fach.
Wednesday, July 6, 2016
ben bore
Dw i'n mwynhau cerdded yn y gymdogaeth ben bore. Cyn hanner awr wedi chwech bydda i'n cychwyn fel arfer. Mae'n olau er bod yr haul heb godi. Mae amrywiol o adar yn prysur wneud eu defod foreol tra bydda i'n cerdded. Does neb allan (ar wahân i ambell i berson efo'i gi) eto. Bydda i'n anelu at y goedwig. Bydda i'n teimlo'n hyfryd wrth weld y coed mawr a blodau gwyllt ac yn anadlu'r awyr ffres. Mae'n anhygoel bydd y ddaear newydd yn filwaith brafiach na hyn i gyd. Gwelais ddwy ewig heddiw. Rhedon nhw i ffwrdd heb wneud sŵn. Wedi cerdded am dri chwater awr, bydda i'n barod i wynebu'r diwrnod.
Tuesday, July 5, 2016
17 mlynedd
Penblwydd fy mhlentyn ifancaf ydy hi heddiw. Mae'n anodd credu bod hi wedi bod yn 17 mlynedd ers iddo gael ei eni. Cafodd ei eni adref fel ei ddwy chwaer, yn fy ystafell wely yn y tŷ presennol i fod yn fanwl. Mae o'n chwe throedfedd a dwy fodfedd o daldra bellach, ac yn mynd i'r brifysgol flwyddyn nesaf. Does ryfedd fy mod i'n mynd yn hen!
Monday, July 4, 2016
Sunday, July 3, 2016
pedwerydd gorffennaf arall
Wrth i'r Unol Daleithiau ddathlu Diwrnod Annibyniaeth, rhaid cofio'r pedwerydd Gorffennaf arall 40 mlynedd yn ôl. Cipiwyd awyren Awyr Ffrainc gan derfysgwyr. Gwnaethon nhw i'r awyren lanio ym maes awyr Entebbe, Uganda. Bygythion nhw i ladd y gwystlon oni bai byddai Israel yn rhyddhau rhai terfysgwyr o'r carchar. Dyfeisiodd Israel gynllun beiddgar - anfonodd bedwar C-130 sydd yn cludo commandos a sawl Mercedes i Uganda i achub y gwystlon. Llwydddd y commandos i achub 102 ar ôl brwydr galed er lladdwyd pedwar ynghyd â Yonatan Netanyahu, arweinydd y cyrch a brawd Prif Weinidog cyfredol Israel. Cludwyd y 102 adref yn ddiogel at y teuluoedd ecstatig. Dyma fideo ddogfen wych.
Saturday, July 2, 2016
bedd bach
Bu farw Coco, ein mochyn cwta olaf ni'r bore 'ma. Roedd hi'n arwain bywyd hapus am wyth mlynedd wrth gael gofal gwych. Mae'n bob tro trist iawn, fodd bynnag, pan anifail anwes yn marw. Roedd hi yma'r bore 'ma ond dydy hi ddim bellach. Roedd rhaid i mi gyflogi hogyn cyfagos i balu bedd yn yr iard cefn gan fod y gŵr a'n mab ni oddi cartref heddiw. Mae hi'n gorffwys yn ymyl ei brawd.
Friday, July 1, 2016
clywch
Mae o'n dweud pethau anaddas o bryd i'w gilydd, ond gwych ydy Trump yn y bôn. "Ein cynghreiriad cryfaf ni ydy Israel. Dan ni'n eu hamddiffyn nhw cant y cant."
Subscribe to:
Posts (Atom)