Tuesday, January 31, 2017
lwmp du
Dydy gweld gwiwerod llwyd, adar ac ambell i ewig neu ddwy ddim yn anarferol pan fydda i'n cerdded yn y goedwig. Gwelais beth rhyfedd ddyddiau'n ôl - lwmp du braidd yn fawr ar y dail. Roeddwn i'n meddwl bod ganddo ddau driongl sydd yn debyg i glustiau. Ffoniais y gŵr a daeth o i'w weld. Cododd y lwmp du a dechrau cerdded i ffwrdd, yna eistedd unwaith eto. Llo oedd! Galwodd y gŵr yr heddlu. Daeth plismon a dweud ei fod o'n gwybod pwy sydd yn debygol o berchen ar y llo, ac felly dwedasai wrtho fo. (Does dim llawer o ffermwyr o gwmpas yma.) Dw i'n byw mewn lle braf.
Monday, January 30, 2017
braint
Braint, nid hawl ydy cael caniatâd i fynd i mewn i wlad arall. Dylai pawb ufudd i gyfraith y wlad - ar ei hamodau hi, nid ar ei amodau o. Mae penderfyniad Arlywydd Trump i wahardd y bobl o'r saith wlad dros dro'n hollol resymol heb sôn am ddoeth. Rhaid cofio bod Obama wedi gweithredu'n debyg yn 2011 heb gael beirniadaeth hallt. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Arlywydd Trump fyddai fo'n rhoi blaenoriaeth i Gristnogion yn Syria sydd yn dioddef o erledigaeth grefyddol i ddod i America.
Saturday, January 28, 2017
bathodyn ar y galon
Friday, January 27, 2017
diwrnod cofio holocaust
Dyma fideo gan Hananya Naftali.
Thursday, January 26, 2017
y wal
Tuesday, January 24, 2017
deplorable
Y gair a ddefnyddiwyd gan Hillary Clinton yn ystod yr ymgyrch ydy hwn. Galwodd hi gefnogwyr Donald Trump yn deplorable (truenus) er mwyn eu sarhau. Roedden nhw'n troi'r gair, fodd bynnag, yn fathodyn i ddangos undod yn erbyn y rhyddfrydwyr. Heddiw ces i fy ngalw'n deploable ar y we am y tro cyntaf gan ddynes nad oedd yn hoffi fy nghefnogaeth i Israel. Diolchais iddi hi am y ganmoliaeth.
Monday, January 23, 2017
siryf newydd
"Mae'r bobl yn dathlu," meddai Jane yn Jerwsalem, "oherwydd bod gan America siryf newydd yn y dref." Penderfynwyd ddoe fyddai cannoedd o dai yn cael eu hadeiladu yn nwyrain Jerwsalem. "Efallai bydd pobl Israel yn cael blaenoriaeth rŵan oherwydd nad oes rhaid i'r llywodraeth blesio Obama mwyach," ychwanegodd. Fe ddoi'r prif weinidog Netanhahu i weld ein Harlywydd newydd ni mis nesaf. Gall perthynas rhwng America ac Israel fod yn gryf a chynnes iawn heb gysgod o smalio o'r diwedd.
Saturday, January 21, 2017
gweithio'n barod
Dechreuodd yr Arlywydd Trump eisoes weithio yn Swyddfa Hirgrwn chwap ar ôl yr orymdaith ddathlu ddoe. Arwyddodd sawl mesur allweddol gan gynnwys Gorchymyn Arlywyddol i ailwampio drwg-enwog Obamacare. Dydy o ddim gwastraffu amser. Ethol a gafodd er gwaethaf pawb a phopeth; ar ben hynny bydd o'n arlywydd gwych.
Friday, January 20, 2017
arlywydd y bobl
Mae gan America arlywydd newydd sydd yn caru ei wlad ac yn ymroddedig i'w gwasanaethu a'i hamddiffyn. Dygodd ei glywed o'n tyngu llw arlywyddol ddagrau i fy llygaid; roedd o'n golygu beth oedd o'n dweud, pob gair. Pob bendith arno fo a'i gabinet a phobol America gan Dduw tragwyddol.
Thursday, January 19, 2017
bikers for trump
Mae miloedd a channoedd o filoedd o bobl yn cyrraedd Washington D.C. am yr Inauguration - rhai ar gyfer dathlu a chefnogi'r arlywydd newydd, a'r lleill ar gyfer protestio yn ei erbyn. Ac mae rhai'n bygwth trais er mwyn amharu ar y diwrnod mawr. Ymhlith y cefnogwyr, mae yna Bikers for Trump, sef grŵp o feicwyr modur dros Mr. Trump. Cyn milwyr a phlismyn ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ac mae ganddyn nhw egwyddor nobl a heddychlon. Cyhoeddodd Chris Cox, arweinydd y feiciwyr, ddyddiau'n ôl na fyddai fo'n disgwyl problemau ond fydden nhw'n barod i ffurfio "wal o gig" os bydd angen er mwyn amddiffyn yr arlywydd newydd a'i gefnogwyr. Ewch amdani!
Wednesday, January 18, 2017
cael digon
Ces i ddigon. Unwaith eto argraffodd Yomiuri y bore 'ma erthygl a gafwyd yn uniongyrchol gan y prif gyfryngau America ynglŷn â'r arolwg diweddaraf am boblogaeth Mr. Trump. Wrth gwrs bod o wedi cael ei drin er mwyn argyhoeddi'r bobl ansicr pa mor annheilwng ydy Mr. Trump ar gyfer y swydd. Doeddwn i ddim yn disgwyl i Yomiuri newid eu polisi oherwydd fy llythyr, ond ces i ddigon. Ddarllenaf byth mohono fe. Mae yna un gwell, sef Sankei. Er bod nhw ddim yn berffaith, maen nhw'n ymddangos yn well na Yomiuri. Ces i fy synnu'n darllen rhai llythyr call gan y darllenwyr.
Tuesday, January 17, 2017
canmolwn y du
Da iawn, y Deyrnas Unedig am wrthod arwyddo'r datganiad sydd yn galw am "two state solution" a gyhoeddwyd gan gynhadledd Paris; trwy hynny atalion nhw'r cynhadledd i'w anfon at Genhedloedd Unedig. Yn gynt, gofynnodd Mr. Trump i'r DU amddiffyn Israel ar y llwyfan rhyngwladol nes iddo gychwyn yn swyddogol. Cyflawni a wnaethon nhw. Roedd yn gam pwysig.
Monday, January 16, 2017
yfory
Aeth 70 cynrychiolydd a mwy i Baris ddoe i gynnal cynhadledd "heddwch" yn Nwyrain Canol. Chyflawnwyd ddim byd. Dim ond condemnio Israel a chefnogi Palestiniaid a wnaethon nhw. Ymunodd Ffrainc â'r lleill sydd yn beirniadu cynllun Mr. Trump ynglŷn â Llysgenhadaeth America yn Israel. "Mae yfory'n edrych yn wahanol; mae yfory'n agos iawn," meddai prif weinidog Israel. Mae o'n iawn.
Saturday, January 14, 2017
mwyaf y bygwth
Doedd rhaid i Mahmoud Abbas beidio â chredu byddai Mr. Trump yn cyflawni ei addewid i symud llysgenhadaeth America o Tel Aviv i Jerwsalem. Wedi'r cwbl, addawodd nifer o arlywyddion America'r un peth ond na feiddiodd neb. Wrth weld bod Mr. Trump yn bwrw ymlaen efo'i addewid, fodd bynnag, dechreuodd Abbas apelio at bob arweinydd amlwg yn y byd gan gynnwys Putin a'r Pab Francis wrth roi awgrym treisgar. Well iddo wybod anian Mr. Trump - mwyaf y bygwth, mwyaf penderfynol. Ac mae pob Americanwr gwerth ei halen tu ôl iddo fo.
Friday, January 13, 2017
sgrifennu at bapur newydd
Thursday, January 12, 2017
cefnogaeth
Falch o weld cefnogaeth gan gant o weriniaethwyr yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr ar gynllun Mr. Trump i symud Llysgenhadaeth America o Tel Aviv i Jerwsalem. Er bod Obama newydd arwyddo waiver i'w atal am chwe mis, gobeithio bydd Mr. Trump yn medru goresgyn y rhwystr, a chyflawni ei addewid yn gynt na'r disgwyl.
Wednesday, January 11, 2017
bwrw ymlaen
Mae Donald Trump yn bwrw ymlaen efo'r cynllun i symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem er gwaethaf y bygythiadau gan rai pobl amlwg. Anfonodd Abbas (PA) lythyrau at arweinwyr llywodraethau'r byd yn gofyn iddyn nhw ei stopio fo hyd yn oed. Dw i'n hynod o falch bod Mr. Trump yn gadarn yn cyflawni ei addewid, a sefyll ochr yn ochr ag Israel.
Tuesday, January 10, 2017
dewis doeth
Cawson ni gardiau anrheg Amazon yn anrheg Nadolig gan frawd y gŵr. Dw i a'r teulu bob amser wrth ein bodd i siopa drwy Amazon. Dyma ni'n archebu ar unwaith, a chyrhaeddodd flwch mawr yn ddiweddar:
fi: het goch tywyll, te o Israel
y gŵr: cydran haearn ar gyfer ei AR-15
y ferch ifancaf: cês lledr ar gyfer ei Mac Book
y mab ifancaf: cymysgedd bach Magic Bullet
Roedd fy mab eisiau set arall o Lego hefyd, ond dewisodd y gymysgedd yn y diwedd i baratoi smwddi iachus; gall fo ddefnyddio hwnnw ar ôl gadael adref am brifysgol hefyd.
fi: het goch tywyll, te o Israel
y gŵr: cydran haearn ar gyfer ei AR-15
y ferch ifancaf: cês lledr ar gyfer ei Mac Book
y mab ifancaf: cymysgedd bach Magic Bullet
Roedd fy mab eisiau set arall o Lego hefyd, ond dewisodd y gymysgedd yn y diwedd i baratoi smwddi iachus; gall fo ddefnyddio hwnnw ar ôl gadael adref am brifysgol hefyd.
Monday, January 9, 2017
gwawr
Fel arfer bydda i'n cerdded yn y goedwig gerllaw ar ôl gweld y gŵr a'r mab gadael am ddiwrnod. Heddiw, fodd bynnag, roedd rhaid i mi fynd â'r mab i'r ysgol. Penderfynais gerdded ar drac y brifysgol sydd ar fy ffordd adref. Roedd yn dal i dywyll pan gychwynnais (7 o'r gloch.) Doedd neb yn cerdded er bod nifer o geir yn mynd heibio o gwmpas y trac. Bob tro roeddwn i'n wyneb y dwyrain, roedd gan yr awyr liw gwahanol - o binc tywyll a llwyd i oren, melyn, aur a glas ysgafn. Es i adref wedi cerdded pump chylch. Y bore
Saturday, January 7, 2017
doron
Mae gan fy merch hynaf ffefryn newydd ar Netflix, sef Fauda, rhaglen debyg i 24 a gynhyrchwyd a ffilmiwyd yn Israel. Dyma ei gwaith diweddaraf - Doron (y prif gymeriad) mewn moment dwys; mae'r rhuban glas yn cynrychioli Israel; mae'r Hebraeg yn dweud, "ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn." - Eseia 54:17
Friday, January 6, 2017
eira
Cawson ni eira cyntaf y gaeaf dros nos. Ces i fy synnu'n gweld y blanced wen ar y dreif pan agorais y llenni. Roedd y gŵr yn y car yn y garej yn barod gan ddisgwyl y mab a oedd yn dal i frws ei ddannedd. Ffoniais fo ar yr unwaith i weld a oedd yr ysgol wedi ei chanslo. Oedd. Dim ond modfedd o eira disgynnodd, ond mae'r ysgolion yma'n barod i ganslo'r dosbarthiadau cyn gynted ag y ffyrdd yn cael eu lliwio'n wyn. Mae'r disgyblion yn hapus beth bynnag. Fe wnes i baratoi pecyn cinio i'r mab yn barod. O wel.
Thursday, January 5, 2017
te kosher
Dw i'n sipian paned o dde go dda (a kosher hyd yn oed) wrth sgrifennu'r pwt hwn. Cafodd Cwmni Te Wissotzky ei sefydlu yn Moscow yn 1849. Bellach mae yna nifer o ddosbarthwyr drwy'r byd. Yn Israel cafodd y paced a brynais ei gynhyrchu. Mae'r ffatri yng Ngalilea tra bod y pencadlys yn Tel Aviv. Anfonais sawl bag te at fy nwy ferch i rannu'r fendith efo nhw.
Wednesday, January 4, 2017
y fodrwy
Mae'r fodrwy newydd gyrraedd o Israel! Mae hi'n hardd a chain, ysgythrwyd gyda dau air Hebraeg - שמע ישראל (Sh'ma Yisrael) - Gwrando, O Israel - y ddau air cyntaf gweddi bwysicaf yr Iddewiaeth. Dw i wrth fy modd. Anfonais neges sydyn at y ddynes a greodd y fodrwy. Mae hi'n hapus fy mod i'n hapus!
Tuesday, January 3, 2017
coffi groeg
Dw i newydd ddarganfod coffi Groeg sydd yn debyg i goffi Dwrci. Mae'n hawdd a hwyl ei baratoi. Does gen i ddim sosban arbennig ac felly dw i'n defnyddio un fach gyffredin. Dywedir bod y modd hwnnw'n medru tynnu allan mwy o faetholion o'r ffa coffi. Fel arfer dw i'n hoffi yfed fy nghoffi efo llefrith heb siwgr, ond bydd ychydig o siwgr yn mynd yn dda efo coffi Groeg (a heb lefrith.)
Monday, January 2, 2017
pob llwyth
Sunday, January 1, 2017
blwyddyn newydd dda
Blwyddyn newydd
Diwedd yr wyth mlynedd dywyll
Diolch
yr 20fed Ionawr
Gobaith
Llawenydd
Jerwsalem
Addewid Duw
Tyrd, Arglwydd Iesu
Diwedd yr wyth mlynedd dywyll
Diolch
yr 20fed Ionawr
Gobaith
Llawenydd
Jerwsalem
Addewid Duw
Tyrd, Arglwydd Iesu
Subscribe to:
Posts (Atom)