yn gyntaf, taflwch allan y cyfrifiaduron, ffonau symudol, teclyn gemau cyfrifiadur; peidiwch â gweld fideo ar alw; peidiwch â phrynu cynnyrch o dramor; peidiwch â defnyddio nifer o feddygaeth hanfodol... oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu dyfeisio, cynhyrchi neu gynllunio un ffordd neu'r llall gan wyddonwyr, cwmnïau neu lywodraeth Israel. Mae'r rhestr yn para'n hir. Wir, mae'n hynod o anodd boicotio Israel os byddwch chi eisiau ei wneud yn gydwybodol.
Wednesday, May 31, 2017
nid hummus yn unig
yn gyntaf, taflwch allan y cyfrifiaduron, ffonau symudol, teclyn gemau cyfrifiadur; peidiwch â gweld fideo ar alw; peidiwch â phrynu cynnyrch o dramor; peidiwch â defnyddio nifer o feddygaeth hanfodol... oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu dyfeisio, cynhyrchi neu gynllunio un ffordd neu'r llall gan wyddonwyr, cwmnïau neu lywodraeth Israel. Mae'r rhestr yn para'n hir. Wir, mae'n hynod o anodd boicotio Israel os byddwch chi eisiau ei wneud yn gydwybodol.
Tuesday, May 30, 2017
jane ar silff
Roeddwn i wrthi'n rhoi trefn ar gwpwrdd dillad a dod ar draws y paentiad a baentiodd fy merch hynaf yn 2002 (pan oedd hi'n 18 oed) - portread o Jane Austen. Roeddwn i'n arfer gwirioni ar ei nofelau ar yr adeg honno, a rhoddodd fy merch y paentiad yn anrheg Nadolig i mi. Wedi colli angerdd drostyn nhw (er fy mod i'n dal i'w hoffi,) cafodd y paentiad druan ei anghofio hyd yma. Ardderchog ydy o beth bynnag ac roedd fy merch yn gweithio'n galed drosta i. Dyma ail-osod Jane ar silff.
Monday, May 29, 2017
Saturday, May 27, 2017
hoopoe
Wedi profiad cyffrous a gafodd hi ar ddechrau ei phythefnos yn Efrog Newydd, mae bywyd fy merch a'i gŵr wedi setlo. Mae yna siopau o bob math gerllaw, ac mae hi'n mwynhau cerdded o gwmpas efo'r ci. (Mae ei gŵr yn sâl yn anffodus.) Cafodd hi ysbrydoliaeth gelfyddydol gan Afal Mawr a'r cyfarfod efo Lior Raz fel dechreuodd baentiad sydd yn cynnwys aderyn cenedlaethol Israel, sef Hoopoe.
Friday, May 26, 2017
breuddwyd merch
Thursday, May 25, 2017
cyfarfod doron
Aeth fy merch a'i gŵr i Efrog Newydd i warchod ci eu ffrind am bythefnos. Maen nhw'n cael mynd o gwmpas y ddinas hefyd. Pwy wnaethon nhw gyfarfod ar stryd yn Manhattan ond Lior Raz, cynhyrchydd a phrif gymeriad Fauda, rhaglen boblogaidd Israelaidd! Y fo ydy ei hoff actor! Mae hi gyffro i gyd a sgrifennodd hi lyfr ata i'n disgrifio'r hanes. Mae Lior wedi gweld celf fy merch o'r blaen gan gynnwys ei bortread a baentiodd hi, a'i hoffi; penderfynwyd byddai ei phaentiad o samurai yn cael ei anfon at ei dŷ yn Israel. Cafodd fy merch ei tharo yn yr holl hanes, pa mor gwrtais a diymhongar ydy Lior er ei fod o'n ddyn amlwg tra ei bod hi'n neb.
Wednesday, May 24, 2017
gŵyl jerwsalem
Tuesday, May 23, 2017
gadael israel
Mewn llai na 30 awr o ymweliad, cyflawnodd yr Arlywydd Trump gymaint. Mae'r perthynas rhwng America ac Israel yn gryfach byth bellach. Pan oedd o flaen y wal, ymbilodd ar Dduw am ddoethineb. Bydded i Dduw ateb y weddi honno. Dioch i'r swyddogion diogelwch a oedd wrthi'n ddygn drwy'r amser. Ei ymweliad nesaf - Rhufain.
Monday, May 22, 2017
arlywydd o flaen y wal
Wedi traddodi araith wych a nerthol i nifer o arweinwyr Arabaidd yn Saudi Arabia, cyrhaeddodd yr Arlywydd Trump Israel heddiw. Mae'r croeso yn anhygoel o gynnes a chyfeillgar, yn enwedig gan y prif weinidog Netanyahua a'i wraig. Mr. Trump ydy Arlywydd America cyntaf a aeth at y Wal Orllewinol yn swyddogol. "Does dim gair i fynegi'r profiad a ges i (o flaen y Wal); gadawodd argraff arna i fyddai'n para am byth," meddai yn nhŷ prif weinidog Israel.
Saturday, May 20, 2017
seremoni raddio arall
Graddiodd fy mab ifancaf ynghyd â 276 eraill o'r ysgol uwchradd neithiwr. Roedd o'n astudio, chwarae pêl-droed a rhedeg cross country yn galed am bedwar blynedd. Mae o eisiau astudio peirianneg yn y brifysgol, a bydd o'n gweithio'n rhan amser yn ystod yr haf. Cynhaliwyd y seremoni dan do oherwydd y tywydd, y tro cyntaf ers 80au. Daeth fy merch hynaf a'i gŵr ar gyfer yr achlysur.
Friday, May 19, 2017
tornado bron
Thursday, May 18, 2017
yn ôl at y brifysgol
Wedi treulio pythefnos yn ymlacio adref, aeth fy merch ifancaf yn ôl at y brifysgol yn Missouri y bore 'ma. Cafodd waith yn y theatr ar y campws yn ystod yr haf, a bydd hi'n dechrau ddydd Sadwrn. Bydd y gwaith yn talu am y costau byw am flwyddyn. Yn anffodus na fydd hi'n medru gweld seremoni raddio ei brawd yfory. Fe ddaw hi'n ôl eto fis Tachwedd.
Wednesday, May 17, 2017
jane a denmarc
Tuesday, May 16, 2017
glaswellt yr haf
Pryd bynnag bydda i'n cerdded ar hyd y llecyn hwnnw, fedra i ddim peidio â chofio'r diwrnod yn y gaeaf flynyddoedd yn ôl pan adeiladodd fy mhlant iglw efo hogyn o'r Almaen, ac â meddwl am yr haiku enwog gan Bashou Matsuo am laswellt yr haf ac uchelgais y milwyr a frwydrodd arno fo.
Monday, May 15, 2017
o flaen y wal
Saturday, May 13, 2017
mynydd fuji
Cafodd fy merched yn Japan gyfle i fynd i gyffiniau Mynydd Fuji. Mae o mor dal fel cewch chi ei weld lle bynnag ydych chi, ac mae o'n anhygoel o fawreddog a hardd. Does ryfedd bod o'n cael ei edmygu bob amser. Dyma hwiangerdd enwog amdano fo:
ei ben uwch y cymylau
mae o'n edrych i lawr yr holl fynyddoedd
ac yn clywed y taranau isod.
y gorau yw Mynydd Fuji.
ei ben uwch y cymylau
mae o'n edrych i lawr yr holl fynyddoedd
ac yn clywed y taranau isod.
y gorau yw Mynydd Fuji.
Friday, May 12, 2017
llen aur
Tra oeddwn i'n mynychu digwyddiad neithiwr, newidiodd yr awyr yn rhyfedd. Roedd llen enfawr o law tuag at y gorllewin yn disgleirio'n aur efo mellt yma ac acw. Dw i'n siŵr bod yna dornado neu ddau rhywle. Aeth adref ar frys cyn cael fy nal gan y storm. Fe ddaeth hanner awr wedyn, cenllysg a phob dim. Mae'n dawel heddiw.
Thursday, May 11, 2017
cerddoriaeth a gwleidyddiaeth
Wednesday, May 10, 2017
bendithio israel drwy jerwsalem jane
Tuesday, May 9, 2017
bwrw ymlaen efo gwen
Monday, May 8, 2017
galaru
Ddewison nhw mo Ffrainc. Am siom. Siom yn union fel y diwrnod enillodd Obama (a dwywaith hyd yn oed.) Ond enillodd Mr. Trump wedi i America ddioddef am wyth mlynedd. Mae gan Dduw gynllun perffaith. Fo a fydd yn ennill yn y diwedd. Duw sydd gan y gair olaf.
Saturday, May 6, 2017
seremoni raddio
Cynhaliwyd seremoni raddio yn Ysgol Optometreg yn y brifysgol leol neithiwr. Camodd 28 o ddoctoriaid newydd y cam cyntaf i ddechrau eu gyrfaoedd. A hwn oedd y tro olaf i fy ngŵr i anfon doctoriaid newydd i'r gymuned. Gofynnwyd sawl tro ydy o'n drist; ei ateb bob tro oedd, "tipyn bach, rhyw un y cant." Mae o'n edrych ymlaen at y cyfnod nesaf ers misoedd.
Friday, May 5, 2017
adnewyddu pasbort
Thursday, May 4, 2017
angen gweddi
Diwrnod Gweddi Genedlaethol ydy hi heddiw. Mae angen gweddi mwy byth arnon ni. Rhoddodd Duw drugaredd ar America a rhoi i ni Mr. Trump, ac eto dydy'r frwydr ddim wedi gorffen; mae hi'n dal yn ffyrnig. Does dim amser i fod yn ddiofal; rhaid dal ati weddïo. Diolch i'r Arlywydd Trump sydd yn cymryd y diwrnod hwn yn ddifrifol.
Wednesday, May 3, 2017
dewiswch ffrainc
Tuesday, May 2, 2017
mae hi'n 69 oed
Monday, May 1, 2017
yom hazikaron
Yom Hazikaron, sef Diwrnod Cofio ydy hi yn Israel. Cofir 23,477 o filwyr a gafodd eu lladd dros eu gwlad ynghyd â 2,576 o bobl a gafodd eu llofruddio gan derfysgwyr.
Mae'r Arglwydd ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.
2 Cronicl 32:8
Mae'r Arglwydd ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.
2 Cronicl 32:8
Subscribe to:
Posts (Atom)