Friday, June 30, 2017
gwlad pwyl
Thursday, June 29, 2017
nid oes duw fel tydi
Des i at weddi Solomon wrth ddarllen yr Hen Destament. Roedd o'n cydnabod o newydd nad oes neb yn debyg i Dduw Israel:
"O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr,"
1 Brenhinoedd 8:23
Dyma weddi hyfryd dw i eisiau ei dysgu yn Hebraeg. Mae yna wefan gyfleus yn Hebraeg a Saesneg yn ochr yn ochr efo awdio hyd yn oed. Dw i wrthi ers ddoe.
יְהוָה אֱלֹהֵי יִשְׂרָאֵל אֵין-כָּמוֹךָ אֱלֹהִים, בַּשָּׁמַיִם מִמַּעַל, וְעַל-הָאָרֶץ מִתָּחַת
"O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr,"
1 Brenhinoedd 8:23
Dyma weddi hyfryd dw i eisiau ei dysgu yn Hebraeg. Mae yna wefan gyfleus yn Hebraeg a Saesneg yn ochr yn ochr efo awdio hyd yn oed. Dw i wrthi ers ddoe.
יְהוָה אֱלֹהֵי יִשְׂרָאֵל אֵין-כָּמוֹךָ אֱלֹהִים, בַּשָּׁמַיִם מִמַּעַל, וְעַל-הָאָרֶץ מִתָּחַת
Wednesday, June 28, 2017
d'urban
Tuesday, June 27, 2017
peidiwch â rhoi'r gorau iddi
Wedi clywed y cloch, es i agor y drws a ffeindio dyn yn ei 70au yn sefyll efo taflen Tystion Jehovah. Dw i byth yn dadlau efo'r rhain, ac felly ces i'r daflen efo diolch. Wrth gau'r drws, clywais y dyn yn gofyn o le dw i'n dod yn wreiddiol. Yna, dwedodd ei fod o yn Japan am 18 mis efo Marine Corps. Cawson ni sgwrs sydyn wedyn. Roeddwn i'n ofnadwy o drist bod dyn oedrannus a hawddgar yn credu yn y cwlt a gweithio'n galed drosto fo. Mae o mor agos at y gwirionedd ac eto mor bell. Gosodais y daflen ar y bwrdd o flaen fy nesg fel cofia' i amdano fo a gweddïo drosto fo.
Monday, June 26, 2017
gweddïwch dros trump
O'r diwedd rhoddodd Llys Goruchaf sêl bendith ar y gwaharddiad teithio arfaethedig. Cymerodd cyhyd, ond buddugoliaeth enfawr o blaid pobl America. Mae'r Arlywydd Trump yn prysur wireddu ei addewidion ymgyrch. Fe allai fo wneud mwy o ddaioni oni bai am ymyrraeth y Democratiaid.
y llun: crys-T newydd fy mab ifancaf
y llun: crys-T newydd fy mab ifancaf
Saturday, June 24, 2017
un sydd gan y synnwyr cyffredin
Friday, June 23, 2017
ar ei ffordd
Thursday, June 22, 2017
siwrnai kagemasa
Wednesday, June 21, 2017
pen-blwydd priodas
Pen-blwydd priodas fy merch a'i gŵr ydy hi heddiw. Maen nhw'n priodi ers naw mlynedd yn hapus. Mae busnes fy mab yng nghyfraith wedi datblygu'n llwyddiannus, ac mae fy merch yn dal i greu celf wych. Bydd hi'n paentio murlun arall yn Nhalaith Florida yn fuan, yna yn Las Vegas a hyd yn oed yn Israel! Bydda i'n postio amdanyn nhw nes ymlaen.
Tuesday, June 20, 2017
byr byr
Cafodd stori fer fy merch (yn Saesneg) ei derbyn gan gylchgrawn llenyddol lleol. Byr iawn iawn ydy hi. Gorau po fyrraf, meddai.
Siwrnai drên: neu sut collodd Ana ei sgarff rad o'r Eidal, ei hoff ysgrifbin efo inc glas, y dderbynneb efo enw'r gweinydd ynghyd ag enwau ei hoff siop hufen ia a'i hoff fand jazz arni hi, ei ambarél periwinkle, a'i chalon.
Trodd hi,
rhy hwyr.
Siwrnai drên: neu sut collodd Ana ei sgarff rad o'r Eidal, ei hoff ysgrifbin efo inc glas, y dderbynneb efo enw'r gweinydd ynghyd ag enwau ei hoff siop hufen ia a'i hoff fand jazz arni hi, ei ambarél periwinkle, a'i chalon.
Trodd hi,
rhy hwyr.
Monday, June 19, 2017
baner
Gosododd y gŵr faner fach ar y bwrdd o fy mlaen. Baner Israel - roeddwn i'n meddwl prynu un ers i mi ddechrau cefnogi'r wlad honno'n angerddol. Gofynnais iddo lle gafodd hi. Prynu drwy Amazon wnaeth, ac yn ddistaw bach i fy mhlesio! Mae hi wedi sicrhau lle ar y silff ben tân bellach. Gobeithio wir y ca' i ffeindio'r faner arall ar goll (rywle yn y tŷ) a gawson ni yn Japan gan gerddor o Israel amser maith yn ôl, ond hanes arall ydy hwnnw.
Saturday, June 17, 2017
esgidiau cowboi
Clywodd hi sŵn esgidiau cowboi ar lawr caled yr ysbyty yn Jerwsalem. Aeth y dieithryn yn syth at Jane; gafaelodd o yn ei llaw a dweud, "Jerwsalem Jane, gadwch i mi ddiolch i chi am beth dach chi'n ei wneud dros fy mhobl a fy ngwlad. Dach chi'n anhygoel, a pheidiwch â meddwl nad oes neb yn sylwi beth dach chi'n ei wneud." Cawson nhw sgwrs wych tra oedd o'n diolch iddi drwy'r amser. Efallai bod Duw Israel wedi gyrru angel ati hi er mwyn codi ei chalon. Pwy a ŵyr?
Friday, June 16, 2017
shakshuka eto
Fe wnes Shakshuka unwaith eto, yn ôl rysáit Dr. Shakshuka yn Tel Aviv, Israel y tro yma. Defnyddiais domatos a sardîn mewn tuniau, a phigoglys. Roedd yn flasus iawn! Rhaid coginio'r saws yn hirach i'w dewhau cyn ychwanegu wyau y tro nesaf.
Thursday, June 15, 2017
dyrchafiad
Mae fy mab hynaf newydd gyhoeddi bod ei wraig yn disgwyl babi arall. Merch mae hi'n ei disgwyl. A dweud y gwir, roedd mam y wraig yn credu'n siŵr mai merch ydy'r babi cyn i'r meddyg ddweud wrthyn nhw. Roedd hi eisoes yn ei galw'r babi yn Ruth. Cafodd fy ŵyr ei ddyrchafu'n "frawd mawr."
Wednesday, June 14, 2017
pen-blwydd arlywydd trump
Pen-blwydd hapus i'r Arlywydd Trump! Roeddwn i'n edrych ymlaen at ysgrifennu post am ei ben-blwydd, ond newidiodd popeth yn sydyn pan saethwyd gwleidydd ynghyd â thri arall ar gae pêl-fas yn Nhalaith Virginia. Gofynnodd y troseddwr a oedd Gweriniaethwyr ar y cae cyn iddo saethu. Pwy a ŵyr nad oedd o'n cynllunio'r erchyllter hwnnw er mwyn dinistrio dathliadau'r diwrnod. Clywais fod y pedwar a gafodd ei anafu mewn cyflwr sefydlog.
y diweddaraf ar gyflwr y cyngreswr a saethwyd: cafodd ei gludo i uned gofal dwys. Mae o angen mwy o lawdriniaethau.
y diweddaraf ar gyflwr y cyngreswr a saethwyd: cafodd ei gludo i uned gofal dwys. Mae o angen mwy o lawdriniaethau.
Tuesday, June 13, 2017
well iddyn nhw ddarllen eu torah
Trist ydy'r gair. Sgrifennodd 1,800 o rabiniaid yn America lythyr at Brif Weinidog Israel - maen nhw'n gofyn i Israel am stopio "meddiannu" y tir a enillodd Israel yn ôl wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod, a chreu gwladwriaeth Palestina fel byddai'r ddwy wlad yn medru byw'n ochr yn ochr yn heddychlon. Duw a roddodd y tir i'r Iddewon yn dweud byddai'r tir yn perthyn iddyn nhw am byth. Iorddonen roedd yn meddiannu tir Israel cyn y rhyfel, nid y Palestiniaid. Doedden nhw ddim yn bodoli fel "pobl" hyd at y 60au. Arabiaid o amryw wledydd oedden nhw. Mae'n well i'r rabiniaid ddarllen eu Torah ynghyd â'r hanes modern. Yna, sut maen nhw'n disgwyl i Israel fyw'n ochr yn ochr yn heddychlon gyda'r rhai sydd eisiau i'r Iddewon i gyd farw?
Monday, June 12, 2017
tra fod o'n aros
Mae fy mab ifancaf yn gobeithio cael ei dderbyn gan College of Ozarks yn dilyn olion traed ei chwaer. Tra fod o'n aros, mae o'n gweithio'n rhan amser i ennill pres ar gyfer y dyfodol. Ar wahân i weithio mewn siop hufen iâ, mae o'n cael ei gyflogi gan gymdogion o bryd i'w gilydd. Roedd o wrthi'n torri'r lawnt a chwythu'r dail oddi wrth do cymydog ddeuddydd yn ôl. (Gwelais fo oddi ar ffenestr fy nhŷ!)
Saturday, June 10, 2017
bore da
Friday, June 9, 2017
dim diolch I rwsiaid, comey, hillary
Thursday, June 8, 2017
at y wal
Wednesday, June 7, 2017
fedra i ddim dioddef bwlis
Mae Nikki Haley, Llysgennad America i Genhedloedd Unedig newydd gyrraedd Israel, wedi ceryddu Cyngor Hawliau Dynol yn Genefa am ei rhagfarn yn erbyn Israel. Does ryfedd iddi gael croeso hynod o gynnes gan Arlywydd a Phrif Weinidog Israel. Canmolodd y prif weinidog fod hi a'r Arlywydd Trump wedi newid cyfarwyddyd Cenhedloedd Unedig, a sefydlu safon newydd. Gostyngedig oedd ateb Haley - "dim ond dweud y gwir wnes i gan fedra i ddim dioddef bwlis." Go dda, Nikki! Gobeithio y ceith ymweliad hyfryd yn y Tir Sanctaidd.
Tuesday, June 6, 2017
y ddynes
Wedi treulio pythefnos gwych yn Efrog Newydd, daeth fy merch a'i gŵr adref yn Oklahoma neithiwr. Cawson nhw gyfle i weld y ddynes a baentiodd hi ar gyfer tŷ bwyta ym maes awyr Newark. Clywodd cwsmer y sgwrs rhyngddi hi a'r weinyddes am y murlun, ac eisiau tynnu lluniau.
Monday, June 5, 2017
codi bawd
Saturday, June 3, 2017
mordaith arbennig
Mae fy merch hynaf a'i gŵr wrth eu bodd yn Efrog Newydd. Cawson nhw fordaith arbennig ar gwch heddlu'r ddinas, diolch i'r sarsiant mae hi'n ei nabod, a gweld y golygfeydd hyfryd ar hyd Afon Hudson gan gynnwys Cerflun o Ryddid a'r man glanio ar gyfer hofrennydd yr Arglwydd Trump. Hwylion nhw dan y ddwy bont, sef Manhattan a Brooklyn. Mae Gorymdaith Ddathlu Israel yn cael ei drefnu yfory yno; gobeithio y cân nhw gyfle i'w gweld.
Friday, June 2, 2017
addewid arall
Cyflawnodd yr Arlywydd Trump ei addewid ymgyrch arall, sef tynnu America allan o Gytundeb Hinsawdd Paris. Mae o'n cael ei farnu'n hallt gan nifer o wledydd a'r rhyddfrydwyr yn America fel disgwyliwyd, ond mae o'n benderfynol.
"Mae'n amser i ni ddod allan o Gytundeb Paris, a symud ymlaen gydag un newydd a fydd yn amddiffyn yr amgylchedd, ein cwmnïau, ein dinasyddion ac ein gwlad," meddai.
"Mae'n amser i ni ddod allan o Gytundeb Paris, a symud ymlaen gydag un newydd a fydd yn amddiffyn yr amgylchedd, ein cwmnïau, ein dinasyddion ac ein gwlad," meddai.
Thursday, June 1, 2017
siom
Arwyddodd yr Arlywydd Trump heddiw'r waiver ynglŷn symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem. Bydd y llysgenhadaeth yn aros yn Tel-Aviv am chwe mis arall. Ces i fy siom wrth gwrs fel y nifer mawr o'r bobl eraill. Roedden ni'n gobeithio na fyddai fo'n ei arwyddo. Mae o'n dal i fwriadu symud y llysgenhadaeth i Jerwsalem fodd bynnag. Yn ôl Tŷ Gwyn, "nid hyn yn gwestiwn o symud neu beidio, ond pryd." Roedd rhaid i'r Arlywydd a'r Prif Weinidog Netanyahu siarad am y pwnc yn bersonol yn Israel yn ddiweddar. Dw i'n dal yn obeithiol.
Subscribe to:
Posts (Atom)