Friday, November 30, 2018
airbnb
Maen nhw wedi ildio i'r pwysau gan BDS. Cywilydd ar airbnb. Rhaid iddyn nhw wybod na fydd neb yn medru trechu Israel; mae Duw Hollalluog gyda'i bobl. Dyma fy merch newydd ddylunio cartŵn i ddangos beth mae airbnb yn ei wneud.
Thursday, November 29, 2018
nadolig llawen y tŷ gwyn
Roedd yn wych clywed, "Nadolig Llawen!" a ddwedwyd gan Arlywydd America unwaith eto. Rhoddodd yr Arlywydd Trump barch i Dduw mae America wedi sefydlu arno fo, a diolch i ddynion a merched lluoedd arfog America. Adroddodd stori'r Geni hyd yn oed (yn modd Linus yn Charlie Brown bron!) Dw i'n diolch i Dduw bob dydd bod o wedi dewis Donald Trump fel Arlywydd America.
Wednesday, November 28, 2018
siwrnai sydyn
Aeth fy merch yn Japan ar siwrnai sydyn i ardal wledig sydd ddim yn bell o'i chartref, gyda ffrindiau'r wythnos diwethaf. Cerddon nhw o gwmpas pentref bach, cael lifft mewn rikisha (cart a dynnir gan ddyn,) twymo eu hunain mewn bath tu allan wrth weld y lleuad lawn (Lleuad yr Afanc,) ac yn y blaen. Cenfigennus ydw i!
Tuesday, November 27, 2018
hermon
Mae'r gwin kosher a archebais newydd gyrraedd - deg o Ffrainc a dau o Israel. Fy ffefryn ydy'r gwin Ffrengig hwnnw. Ces i Hermon am y tro cyntaf. Mae'n hynod o dda. Mae'n anhygoel bod y bobl yn Uchder Golan yn medru cynhyrchu gwinoedd yno tra bod nhw'n cael eu hymosod gan Hezbollah ac Iran drwy'r amser. Falch o fedru eu cefnogi nhw.
Monday, November 26, 2018
addurno newydd
Saturday, November 24, 2018
yn hytrach na dydd gwener du
Yn lle mynd i Ddydd Gwener Du ddoe lle oedd anhrefn ofnadwy mewn nifer o siopau, hyd yn oed ymladd treisgar i ennill bargenion, archebais fodrwy a wnaed â llaw yn Israel; roedd fy merch eisiau'r un fath â fy un i sydd yn dweud "Shema Israel Adonai Eloheinw, Adonai Echad" (Gwrando, Israel: y mae'r Arglwydd ein Duw yw un) arni hi. Dim ond un a oedd ar ôl, ac roedd 20 o bobl wedi ei gosod yn y fasged siopa. Y fi a'i chipiodd! Roeddwn i'n meddwl prynu nwyddau o Israel eto er mwyn curo BDS. Peth perffaith i wneud ar Ddydd Gwener Du!
Friday, November 23, 2018
torth cig eidion
Dw i ddim eisiau "gwneud twrci" mwyach. Roeddwn i'n dibynnu ar gyw iâr wedi'i rostio Reasor's i ginio Gŵyl Ddiolchgarwch. Yn anffodus ches i mohono. Dydyn nhw ddim yn ei werthu ddiwrnod yr ŵyl, medden nhw. Wrth gwrs. Dim ond fi a oedd ei eisiau, mae'n debyg. Roedd dyma newid y fwydlen yn sydyn, a phenderfynu paratoi torth cig eidion. Mae gen i rysáit newydd, a ches i gyfle i'w defnyddio am y tro cyntaf. Roedd yn dda iawn, ac roedd y teulu'n fodlon. Pryna' i gyw iâr i swper heddiw.
Thursday, November 22, 2018
Wednesday, November 21, 2018
tyrcïod i'r milwyr
9,738 o dyrcïod
51,234 pwys o dyrcïod wedi'u rostio
74,036 pwys o gig eidion
21,758 pwys o gig moch
67,860 pwys o ferdys
16,284 pwys o datws melys
81,360 o basteiod
19,284 o gacennau
7,836 galwyn o eggnog
Diolch yn fawr, a Gŵyl Diolchgarwch Hapus i'n milwyr annwyl ni!
Tuesday, November 20, 2018
ci cymraeg
Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gweld ci fy merch am eiliad pan welais hwnnw. Does ryfedd oherwydd mai whippet ydy Frieda, ci Anne Cakebread, yr un fath â chi fy merch. Roeddwn innau hefyd yn arfer siarad Cymraeg â chathod a welais pan es i am dro wrth ddysgu'r iaith. Mae siarad gyda anifeiliaid anwes yn llawer gwell gan eu bod nhw efo chi bob amser.
Monday, November 19, 2018
blasu gwinoedd
Aeth fy merch hynaf i flasu gwinoedd mewn gwindy yn Norman. Cynigir y blasu bob mis gan y cwmni o Ukraine; blaswyd chwe gwin o Efrog Newydd y tro hwn. Dwedodd hi ei bod hi'n cael amser hyfryd (er roedd yn anodd iddi farnu beth ydy beth!) Hoffwn i ymuno â hi, ond na fedra i glywed blas yn iawn yn ddiweddar yn anffodus. Gobeithio ca' i un diwrnod.
Friday, November 16, 2018
y sioe olaf
Perfformiwyd y sioe, Flames of Freedom gan griw theatr College of Ozarks am y tro olaf neithiwr. Perfformiwyd 17 gwaith yn ystod y ddau fis. Roedd digwyddiadau annisgwyl fel methiant y peiriannau o bryd i'w gilydd, ond roedd y criw ar y llwyfan a thu ôl iddi yn gweithio mor galed er mwyn cyflwyno sioe hyfryd sydd yn rhoi parch i'r milwyr a frwydrodd dros rydded. Roedden nhw'n hapus gorffen y cynhyrchu enfawr o'r diwedd, ond ar yr un pryd, yn drist ffarwelio â fo.
Hanesyn bach fy merch: pan oedd hi'n cael ei bygwth gan y ddau filwr Almaenaidd, roedd hi ar fin chwerthin oherwydd bod hi wedi gweld un o'r ddau'n ceisio cuddio ei wen. Gweithiodd hi'n galed i ladd y chwerthin gan feddwl am bethau trist, a llwyddo. Yn ffodus, doedd neb wedi sylwi'r cyfyng-gyngor (ac eithrio'r hogyn!)
Thursday, November 15, 2018
hanner y swper
Dw i a'r gŵr yn cael fy hoff saig i swper heno, sef y gweddill o'r bwyd a goginiais y diwrnod blaen. Mae hyn yn golygu nad oes angen coginio swper arna' i heddiw. Er fy mod i'n mwynhau coginio pethau iachus i mi a'r gŵr, mae'n braf cael hoe fach o dro i dro. Dyma'r swper, neu hanner y swper - caserol macaroni, tiwna, Brussels sprouts a bara ŷd gyda moron, banana.
Wednesday, November 14, 2018
het eto
Tuesday, November 13, 2018
cadw'n gynnes
Monday, November 12, 2018
diwrnod yr hen filwyr
Pwy fydd yn amddiffyn y rhydded?
Oherwydd nad ydy ef yn rhad ac am ddim.
Rhoddon nhw bopeth er mwyn inni fod yn rhydd.
Saliwtiwn ni nhw.
Cedwir Diwrnod yr Hen Filwyr heddiw.
Oherwydd nad ydy ef yn rhad ac am ddim.
Rhoddon nhw bopeth er mwyn inni fod yn rhydd.
Saliwtiwn ni nhw.
Cedwir Diwrnod yr Hen Filwyr heddiw.
Saturday, November 10, 2018
tân cyntaf
Friday, November 9, 2018
cinio yn napoli's
Es i Napoli's gyda'r gŵr i ddathlu fy mhenblwydd neithiwr. Dysgais y fwydlen ar lein yn fanwl ymlaen llaw fel medrwn i archebu'n syth. Defnyddir gormod o hufen yno, yn fy nhyb i. Dewisais capellini efo cyw iâr wedi'i grilio a llawer o lysiau. Ces i wydr o win pinc hefyd. Roedd popeth yn dda; dewisais yn gall. Gan fod yna ormod o fwyd, des i â rhan ohono fo adref i'w fwyta'r diwrnod wedyn.
Thursday, November 8, 2018
anrhegion amrywiol
Fy mhenblwydd ydy hi heddiw. Ces i anrheg hyfryd ddwy flynedd yn ôl, sef buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol. Eleni, ar y llaw arall, yn ogystal â gweld y Gweriniaethwyr yn gwneud yn dda yn yr etholiadau canol tymor, ces i ddwsin o win kosher o Ffrainc ac Israel gan y gŵr. Anrheg arall ganddo fo ydy e-lyfr Dr. Steve Turley o'r enw "President Trump and Our Post-Secular Future." Ein hoff ddyn YouTube ydy Dr. Turley. Dw i newydd gychwyn ar y llyfr. Mae'n hynod o ddiddorol. Edrych ymlaen at ddarllen mwy.
Wednesday, November 7, 2018
llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau mawr i Lywodraethwr Kevin Stitt a Cyngreswr Markwayne Mullin am eu buddugoliaeth! Fe wnaeth y Gweriniaethwyr yn dda ar y cyfan gan ennill y Senedd a'r seddau pwysig mewn nifer o'r taleithiau. Er bod nhw wedi colli'r Gyngres, llawer llai oedd y golled o gymharu â'r adegau Obama a Clinton. Bydden nhw fod wedi ennill mwy oni bai am y twyll, sef y mewnfudwyr anghyfreithlon a bleidleisiodd yn slei. Mae'r Arlywydd Trump yn llawn hyder ac yn fwy penderfynol fyth i fwrw ymlaen. "Rŵan medrwn ni ddod yn ôl at y gwaith a chyflawni'r tasgau," meddai.
Tuesday, November 6, 2018
diwrnod mawr
Monday, November 5, 2018
chychwyn cynnar
Saturday, November 3, 2018
het arall
Friday, November 2, 2018
pleidleisio cynnar
Doedd erioed y fath o sylw ar yr etholiad canol tymor. Mae'n hawdd anghofio amdano fo ar ôl cyffro'r etholiad arlywyddol fel arfer. Eleni, fodd bynnag, mae'r Unol Daleithiau yn llawn ohono fo, diolch i'r Arlywydd Trump am ei ymdrech parhaol i annog i gefnogwyr y Gweriniaethwyr bleidleisio. Tra ei fod o'n dal i gynnal rali bob dydd, a dau'r dydd o hyn ymlaen, mae cynifer o bobl yn pleidleisio ymlaen llaw. Aeth y gŵr ddoe (y diwrnod cyntaf pleidleisio cynnar yn Oklahoma) i fwrw ei bleidlais; cafodd ei synnu i weld bod y lle'n llawn o bobl! Arwydd cadarnhaol! Ewch ymlaen!
Thursday, November 1, 2018
gosod arwyddion
Mae'r diwrnod etholiad ar y trothwy. Dw i a'r gŵr eisiau dangos ein cefnogaeth at y Gweriniaethwyr; dyma osod arwyddion dau o'r ymgeiswyr yn ein hiard ni. Markwayn Mullin i'r Cyngres, a Kevin Stitt fel Llywodraethwr Oklahoma. Dynion gydag egwyddorion moesol, ceidwadol ydyn nhw. Yn anffodus, mae'r Democratiaid yn gryf yn y sir hon er bod Oklahoma'n geidwadol ar y cyfan. Dylen ni ddal ati.
Subscribe to:
Posts (Atom)