Thursday, September 27, 2007

alergedd

Mi nes i golli cwsg neithiwr achos mod i wedi cael trafferth anadlu'n iawn. Mae alergedd yr hydref yn ofnadwy o waeth nag arfer eleni. Mae llawer o bobl yn diodde ar y hyn o bryd. Roedd rhaid i mi fynd at y meddyg a phrynu "inhaler" am y tro cynta erioed. "Ragweed" ydy un o'r pethau sy'n gyfrifol yn UDA. Mae o wedi tyfu'n enfawr ac yn nerthol o achos yr haf gwlypach. Gobeithio daw tymor yr alergedd i ben yn fuan.

2 comments:

Corndolly said...

Ron i'n hanner ffordd trwy ysgrifennu atat ti am 'Ragweed' pan sylwais i fy mod i'n meddwl am 'Ragwort' Planhigyn efo blodau melyn ydy Ragwort, neu 'llysiau'r gingreon', yn ol Iolo Williams. Ydy hyn yr un planhigyn? Mae 'llysiau'r gingroen' yn gallu lladd gwartheg a chefflyau os ydyn nhw'n bwyta'r planhigyn.

Emma Reese said...

Nac ydi.

http://en.wikipedia.org/wiki/Ragweed
http://en.wikipedia.org/wiki/Ragwort

Mae 'Ragwort' yn bert.