Thursday, September 20, 2007

dysgu cymraeg efo google, 1

Dw i'n google geiriai neu fynegiannau i weld sut maen nhw'n cael eu defnyddio. Dyma un:

naill ai .... neu

Ro'n i eisiau gwybod beth fyddai'n dilyn "naill ai." Mi ddes i o hyd i rhai enghreifftiau:

*Bydd angen i chi naill ai rhoi enw'r orsaf neu'r arhosfan.
*bod chi'n gofalu am blentyn sydd naill ai'n wael neu'n anabl
*naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg
*naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth"

Felly ar ôl yr enghreifftiau ma, mae'n bosib defnyddio naill ai berf neu ansoddair neu arddodiad neu enw.

--------

Llongyfarchiadau i dîm Cymru!

2 comments:

Corndolly said...

Hi Emma. Dw i'n credu dy sylwadau am 'naill ai ...neu' yn defnyddiol. Dw i'n tueddu meddwl am yr ymadrodd fel 'either .. or' yn Saesneg. Efallai, yn y dyfodol, rhaid i ni ysgrifennu ein deg brawddeg am bethau fel hyn.

Emma Reese said...

Syniad da, corndolly.