Mi ges i hen hen lyfr Cymraeg oddi wrth gyd-ddysgwr yn America, sef Hyfforddwr a Chyffes Ffydd gan Thomas Charles. Argraffwyd y llyfr yn Wrecsam yn 1874. Amryw o bobl oedd biau hwn ar ôl y llofnodion gan gynnwys Mr. William Ebenezer yng Nghaernarfon. Darn o hanes ydy hwn. Fedra i ddim credu bod fy ffrind wedi cael hyd iddo mewn siop lyfrau ail-law yn America.
2 comments:
Mae hwn yn hen lyfr gwych, clasur. Dwi wedi etifeddu hen gopi fy Nhadcu oedd yn Weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, eglwys Thomas Charles. Mae'n lyfr rhyfeddol ac yn rhoi cipolwg i ni ar gyfundrefn ffydd gynhwysfawr Cristnogion y bedwaredd ganrif a'r bymtheg.
Mae'r Gymraeg yn eitha caled i mi wrth gwrs, ond mi hoffwn i geisio darllen y llyfr mor werthfawr.
Post a Comment