Sunday, April 13, 2008

diwrnod llawn

Rôn i braidd yn brysur ddydd Sadwrn.

Ar ôl mynd i siopa yn Wal-Mart a chael cinio wedyn, mi es i a'r gwr i ymweld â'r hen ddynes Japaneaidd. Roedd hi mor hapus fy ngweld i eto a chyfarfod fy ngwr. Mae hi'n wraig weddw oedd yn priod â pheilot Lluoedd Awyr Americanaidd. Roedd hithau'n gweithio iddo yn Japan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yna, mi gaethon ni dri myfyriwr Japaneaidd arall i swper. Mi nes i gyri cyw iâr eto. Mae pob myfyriwr Japaneaidd yn fodlon bwyta cyri bob tro. Ar ôl wylio fideos a chwarae "Play Station" ac ati, mi aeth fy ngwr â nhw adre.

Diwrnod llawn a bodlon.

2 comments:

asuka said...

sa' i 'di darllen dim o "un diwrnod yn yr eisteddfod", ond fe ddechreuais i "seren wen ar gefndir gwyn" y llynedd, a gefais yn ddiddorol braidd - un o'r llyfrau 'na rwy'n gobeithio cael mynd yn ôl ato rywbryd yn y dyfodol!

Emma Reese said...

Mi na i geisio darllen un o'i storiau byr.