Thursday, July 3, 2008

ty bwyta gorau yn japan


Neu un o'r gorau ydy ty bwyta fy mrawd, mae'n siwr er mod i heb fynd i bob ty bwyta yn Japan. Mae o'n arbennigo mewn cyw iar ond yn coginio pethau eraill hefyd. Mae o'n rhedeg y siop ers dros 30 mlynedd wedi gweithio fel cogydd i lysgennad Japan yn Seland Newydd. O, mae ei fwyd yn dda!

Mi naeth fy mab flasu rhai prydau o fwyd yno. Dyma un ohonyn nhw, sef peli cig cyw iar efo saws soia.

4 comments:

asuka said...

mae popeth yn wyrdd, a'r blog yn gwisgo mewn lliwiau ffres at yr haf.
ac mae'r bwyd 'na'n edrych yn ffeind 'fyd. ('swn i'n bwyta cig dyna'r cig y byddwn i am ei fwyta!)

Emma Reese said...

Mi nes i benderfynnu newid y templed dros yr haf fel dwedest ti. Ac dw i'n fodlon efo'r lliw ma.

Mae fy mrawd yn coginio pethau gwych i lysieuwyr hefyd. Tatws wedi'u ffrio hefo menyn sy'n edrych fel pitsa ydy fy ffefryn.

asuka said...

tatws... menyn... ffrio... edrych fel pitsa... beth sy ddim yn swnio'n lyfli yn y rhestr 'na? rwy eisiau trio gwneud rhywbeth fel'na fy hunan!

Emma Reese said...

Dw i wedi ceisio gwneud hynny fy hun ond wedi methu. Rhaid tafell tatws wedi'u berwi mor denau â phosib, a gwthio nhw ar badell ffrio'n siâp pitsa.