Wednesday, May 13, 2009

dal annwyd

Prin mod i'n dal annwyd ond dw i wedi dal un. Roedd gen i ddolur gwddf ofnadwy ac fedrwn i ddim peidio tisian yn gyson y bore ma. Roeddwn i i helpu'r ysgol ond fedrwn i ddim. 

Mae rhai yn dweud y dylech chi ymprydio os oes gynnoch chi annwyd fel y medrith y corff wella ei hun heb orfod defnyddio ei egni i dreulio bwyd. Ond well i mi fwyta rhywbeth ysgafn ac yfed digon o de gwyrdd a dwr poeth efo mêl a seidr finegr.

Ces i 'foot bath' am hanner awr wrth darllen Rhannu'r Ty. Mae'r nofel mor anodd mod i ddim wedi medru darllen ond ychydig (tra oeddwn i'n synfyfyrio o bryd i'w gilydd.) Dw i'n teimlo'n llawer gwell bellach. Rhaid i mi yfed paned arall rwan.

7 comments:

asuka said...

druan ohonot ti. gobeithio wir y gwnaiff y finegr, y bathau traed, y gymraeg anodd a'r te gwyrdd y tro cyn bo hir!

Emma Reese said...

'y Gymraeg anodd' ^^

Rhaid ychwanegu 'sylwadau doniol gan Asuka.'

Linda said...

Go drapia ! Gobeithio y byddi'n teimlo'n well yn fuan .
'Roedd gan fy nain ddywediad 'roedd yn mynd yn debyg i hyn :
'Feed the cold and starve the bile'
Brysia wella !

neil wyn said...

Gwella'n fuan...

Emma Reese said...

Diolch i bawb am eich eiriau clên. Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw.

Corndolly said...

Sut wyt ti'n teimlo'n rŵan? Gwell, gobeithio.

Emma Reese said...

Llawer gwell, diolch.