Saturday, May 30, 2009

dau o saudi arabia

Yn y brifysgol leol yma mae yna ryw dri cant o fyfyrwyr o wledydd amrywiol y byd. A chaeson ni gyfle i wahodd dau o Saudi Arabia i swper neithiwr. Hend a'i brawd oedden nhw. Hogan siriol a chlên ydy Hend, ac dydy hi ddim yn petruso mynegi ei barn ac mae hi'n awyddus i ddysgu pethau newydd. Mae hi a'i brawd ar gwrs Saesneg ail-iath ar hyn o bryd cyn mynd i brifysgol arall i astudio.  

Dw i ddim yn nabod neb o'r wlad yna ac dôn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond mae'n dda gwybod bod pobl ydy pobl er gwaethaf gwahaniaethau ethnig neu grefyddol. 

Roedd Hend wedi rhyfeddu mod i'n dysgu iaith mor brin a gofyn imi ddweud rhywbeth yn Gymraeg. Dwedes i, "Bore da. Dw i'n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd." Ceisies i ddysgu brawddeg neu ddwy yn yr Arabeg ond na, roedd yn rhy anodd!. Diddorol clywed mai mama ydy mam ac baba ydy tad. Yn y Japaneg, mama ydy mam hefyd ond nain ydy baba!

Caethon ni i gyd amser gwych. (Roedd y plant yn dangos y moch cwta iddi.) Wna i ddim rhoi llun ohonyn nhw i barchu eu harfer. Ond coeliwch fi. Mae hi'n glws! Ac mae hi wrth ei bodd efo ffilm Pride and Prejudice gan BBC!

4 comments:

Gwybedyn said...

diddorol, on'd yw hi, fel mae seiniau'n cymryd gwahanol ystyron. Yn Dwrceg, ystyr y gair 'baba' yw 'tad'!

ac, wrth gwrs, yn Bwyleg, ystyr 'no' yw 'ie'.

Emma Reese said...

Ac ystyr 'ia' yn y Japaneg ydy 'no' hefyd!

Gwybedyn said...

hei, mae hyn yn mynd yn gymhleth dros ben. "ia" yn siapaneeg yw "no" yn Bwyleg? (sef "ia" gogleddol?).

;)

Emma Reese said...

Wedi meddwl, 'ia' ac 'ie' yn Japaneg ydy 'no' yn Saesneg! 'No' yn Bwyleg ydy 'no' yn Saesneg hefyd? Mae hyn yn ofnadwy o gymhleth!!