Friday, May 29, 2009

hwyl a sbri 2009



Yn ôl yr arfer, aeth fy ngwr â'r plant a dwy ffrind i Afon Ilinois heddiw. Aethon nhw i lawr yr afon mewn rhafft a chanw am ddwy awr. Roedd hi'n braf ac roedd yna ddigon o ddwr yn yr afon ar ôl y cyfnod o law. Doedden nhw ddim eisiau i'r siwrnau orffen fel y ceision nhw rwyfo i fynny'r afon hyd yn oed! 

Tra oedden nhw'n cael hwyl a sbri, roeddwn i'n hollol fodlon aros adref ar fy mhen fy hun a chael amser gwych. Ond dw i wedi blino rwan wedi tacluso'r ty, mynd i siopa a choginio swper arbennig. Do, caethon ni bobl ddieithr heno, nid myfyrwyr o Japan ond dau o Saudi Arabia!

4 comments:

Corndolly said...

Dw i'n hoffi'r lluniau, Emma. Mae'n edrych fel eu bod nhw'n cael amser gwych. Ond beth rhoddaist ti i dy ymwelwyr i fwyta?

Emma Reese said...

Cyw iâr a reis brown ayyb.

Linda said...

Da clywed fod pawb wedi cael amser hwyliog !

asuka said...

edrych yn reit hwylus! rwy'n siwr bot hi'n neis mynd mas ar y dw^r a'r tywydd mor dwym. hwrê am yr ha!